Byddwch angen:
- Clipfyrddau, pensiliau a phapur
Modiwl 2: Trafnidiaeth

Arolwg Trafnidiaeth
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gellir gwneud yr arolwg trafnidiaeth byr hwn yn agos iawn i’r ysgol.
Beth i'w wneud:
Trefnu’r disgyblion mewn parau neu grwpiau o dri a rhoi clipfyrddau, pensiliau a phapur iddyn nhw. Dangoswch i’r dosbarth sut i gofnodi gan ddefnyddio dull rhicbren. Esboniwch yn fras i’r disgyblion y byddan nhw’n gwneud arolwg trafnidiaeth am 10 munud a thrafodwch pa fath o gerbydau y gellir disgwyl eu gweld ar y ffordd tu allan i’r ysgol. Bydd disgyblion yn gwneud rhestr o gerbydau addas (e.e. ceir, faniau, loriau a beiciau) gyda lle i gofnodi cyfansymiau.
Yn ogystal â chyfrif y cerbydau, dwedwch wrth y disgyblion yr hoffech iddyn nhw gyfrifo’r bobl sydd yn y ceir, a meddwl ynglyn â pha fath o siwrneiau y maen nhw’n eu gwneud (ee cymudo, cludo ayb). Ewch â’r disgyblion i ran ddiogel o’r palmant, ar ddarn addas o ffordd sydd yn agos iawn i’r ysgol, i wneud yr arolwg. Yn ôl yn yr ysgol, trafodwch y darganfyddiadau a chofnodi’r data ar y bwrdd.

Nesaf >![]() Olion Traed Trafnidiaeth |
---|