Modiwl 2: Trafnidiaeth

Olion Traed Trafnidiaeth
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Dengys y sleidiau hyn sut rydym yn defnyddio trafnidiaeth a’r effaith a gaiff.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y darluniau a’r testun yn y sleidiau a’r wybodaeth isod i arwain trafodaeth.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Olion Traed Trafnidiaeth (2.98 MB)
Atgoffwch y disgyblion fod ôl troed yn ffordd o archwilio ein heffaith ni ar y blaned. Esboniwch y byddant yn astudio cyfran yr ôl troed sy’n cynrychioli trafnidiaeth yr wythnos hon. Cyn edrych ar y siart pei o allyriadau trafnidiaeth, gofynnwch i’r disgyblion pam y maen nhw’n meddwl fod cyfran trafnidiaeth ar y graff ôl troed mor fawr. Cyfeiriwch at eu darganfyddiadau o’r arolwg trafnidiaeth.
Esboniwch fod cyfran trafnidiaeth ar y graff ôl troed wedi ei dadelfennu yn fanylach i greu'r siart pei o allyriadau trafnidiaeth.
Trafodwch yr amrywiol fathau o drafnidiaeth ar y siart gyda’r disgyblion. Ysgogwch nhw i gynnig eu profiadau eu hunain o wahanol fathau o siwrneiau y maen nhw wedi eu gwneud. Mae’n bwysig iawn peidio gwneud iddyn nhw deimlo’n euog! Bydd llawer o’r disgyblion wedi hedfan i lefydd ar eu gwyliau, ac yn debygol o fod wedi mwynhau’r profiad. Efallai fod rhai ohonyn nhw wedi bod ar drên i Ewrop, neu ar fws, mewn car, neu ar long.
(Bydd mwy o fanylion am gludo nwyddau yn dod fel rhan o fodiwlau sydd i ddilyn. Ond mae’n gyfle da i gyflwyno’r ffaith fod cludiant llong yn fwy effeithlon nag y byddai llawer yn meddwl.)
Anogwch y disgyblion i drafod teithiau o fewn Cymru a’r DU. Sut maen nhw’n teithio i’r ysgol, ymweld â pherthnasau, neu fynd am dro am y diwrnod?
Defnyddiwch y darluniau i esbonio effeithiau’r amrywiol fathau o drafnidiaeth. Hedfan a theithio mewn ceir sydd â’r gyfran fwyaf fesul teithiwr. Rydyn ni’n hedfan llai nag yr ydym yn gyrru, ond mae hedfan yn defnyddio mwy o danwydd, a chaiff y CO2 hyd yn oed fwy o effaith pan gaiff ei ryddhau ar uchderau o’r fath. Caiff ceir gymaint o effaith gan ein bod yn eu defnyddio mor aml, yn aml ar gyfer siwrneiau byr â dim ond un person ynddyn nhw. Mae trenau a bysiau yn fwy effeithiol oherwydd gallan nhw gludo nifer fawr o bobl ar un tro. Wrth gwrs, mae bws â dim ond un neu ddau o deithwyr ynddyn nhw yn llawer llai effeithiol!
< Blaenorol![]() Arolwg Trafnidiaeth |
Nesaf >![]() Symud o Le i Le |
---|