Byddwch angen:
- Mapiau o’ch ardal leol (neu fatiau llawr gyda lluniau’r ardal o’r awyr)
- Amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus leol
Modiwl 2: Trafnidiaeth

Symud o Le i Le
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gweithgaredd grŵp yw hwn yn defnyddio mapiau ac amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus.
Beth i'w wneud:
Os oes gennych set o fatiau llawr gyda lluniau’r ardal o’r awyr arnyn nhw, yna gallwch yn hytrach ddefnyddio'r rheini, neu yn ychwanegol i’r mapiau rhanbarthol safonol. Bydd y matiau llawr yn caniatáu i chi weithio gyda grŵp mwy o faint.
Anogwch y disgyblion i adnabod llefydd cyfarwydd ar y map neu’r lluniau. Bydd angen iddynt ddod o hyd i ble maen nhw’n byw, ble mae’r ysgol, y llefydd cyfarwydd y maen nhw’n teithio iddynt: e.e. y ganolfan hamdden, lle mae ffrindiau neu berthnasau’n byw, lle maen nhw’n mynd i siopa neu fynd am dro.
Cyflwynwch amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus i’r disgyblion. Sicrhewch eu bod yn deall beth maen nhw’n ei feddwl, a sut i’w defnyddio. Wedyn, rhowch her i’r disgyblion i gynllunio taith o’r ysgol i leoliad addas gan ddefnyddio’r amserlenni. Defnyddiwch gymaint o enghreifftiau ag y mynnwch i sicrhau fod y disgyblion yn deall y dasg.
Yna rhannwch nhw i grwpiau bach a gofyn i bob grŵp gynllunio tair siwrnai yr un. Gall y siwrneiau fod yn rhai yr ydych chi wedi eu gosod fel her, neu’n rhai o’u dewis eu hunain. Ar ôl ychydig o amser gall y disgyblion adrodd yn ôl i weddill y dosbarth. Trafodwch fel dosbarth pa mor anodd neu hawdd oedd hyn. Bydd rhai ardaloedd yn cael eu gwasanaethu gan well trafnidiaeth gyhoeddus nag eraill. A ellir gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal? Beth os fydden nhw eisiau f beicio o un lleoliad i’r llall? Oes yna lwybrau beicio?
< Blaenorol![]() Olion Traed Trafnidiaeth |
Nesaf >![]() Teithio Amser |
---|