Modiwl 2: Trafnidiaeth

Cludiant Cynaliadwy
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn cyflwyno atebion trafnidiaeth gynaladwy.
Beth i'w wneud:
Cyn eich bod yn dangos y sleidiau gofynnwch i’r disgyblion beth maen nhw’n feddwl yw rhai o’r atebion i drafnidiaeth sy’n cael llai o effaith ar y ddaear.
Defnyddiwch y darluniau a’r testun ar y sleidiau a’r wybodaeth isod i arwain trafodaeth.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Trafnidiaeth Gynaliadwy (4.66 MB)
Dyma rai o’r pwyntiau allweddol a chwestiynau i’w gofyn fel rhan o’r drafodaeth:
Cerbydau Trydan:
- Mae’r dechnoleg hon wedi ei phrofi, yn wahanol i lawer o gerbydau carbon isel eraill sydd wedi eu dyfeisio ac sydd i’w gweld ar y teledu o dro i dro.
- Bydd angen buddsoddi llawer yn yr isadeiledd sy’n angenrheidiol ar gyfer gwefru neu newid batris.
Biodanwyddau:
- Y brif anfantais gyda biodanwydd yw nad oes gennym ddigon o dir i dyfu digon o fwyd i fwydo pawb ar y blaned, ac i ddarparu symiau mawr o danwydd i gerbydau hefyd. Mae ardaloedd mawr o’r goedwig law wedi ei dymchwel i dyfu olew palmwydd i wneud biodanwyddau, gan arwain at allyriadau CO2 o ddigoedwigo.
- Mae rhai ceir yn rhedeg ar fio-disel wedi ei wneud o olew sglodion wedi ei ailgylchu. Caiff hyn lawer llai o effaith na biodanwyddau eraill, ond nid oes gennym ddigon o olew sglodion i bawb - hyd yn oed petai gan bawb yn y DU geir bach, a’u bod yn gyrru llai o bellteroedd yn fwy effeithlon, ni fyddai gennym ond digon o olew sglodion ar gyfer 1% o’n cerbydau.
- Gofynnwch i ddisgyblion pa gerbydau maen nhw’n feddwl ddylai gael eu blaenoriaethu ar gyfer adnoddau gwerthfawr megis bio-disel olew sglodion. Gobeithio y byddant yn awgrymu pethau fel peiriannau fferm a cherbydau’r gwasanaeth brys.
- Serch hynny, os wnawn ni gynllunio ein defnydd o’r tir yn ofalus, bydd yn bosibl darparu ychydig o danwydd trafnidiaeth o blanhigion. Mae’n bosibl, er enghraifft, i dyfu planhigion coediog fel myscanthus i wneud bio-cerosin y gellir ei ddefnyddio mewn awyrennau.
Cerbydau hybrid (fel y Prius):
- Technoleg ar gyfer gwneud cerbydau yn fwy effeithlon yw hon, trwy ddal yr ynni a wastraffir wrth frecio. Serch hynny, bydd cerbyd hybrid mawr yn dal i ryddhau mwy o allyriadau carbon deuocsid y filltir na cherbyd bychan heb dechnoleg hybrid.
- Mae gweithgynhyrchu cerbydau trydan newydd effeithlon yn dal i ddefnyddio llawer o ynni, a bydd angen i ni i gyd deithio llai.
- Bydd adnoddau beicio a cherdded da yn rhywbeth fydd yn bwysig iawn.
< Blaenorol![]() Teithio Amser |
Nesaf >![]() Gwestai Cudd |
---|