Byddwch angen:
- Ymweliad gan aelod o’r gymuned leol sy’n ymwneud â materion trafnidiaeth – gall y person yma fod yn gynrychiolydd o’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr orsaf fysiau, neu rywun sy’n rhedeg siop feiciau er enghraifft.
Modiwl 2: Trafnidiaeth

Gwestai Cudd
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae hwn yn gyfle i’r disgyblion gyfweld â rhywun o’r gymuned leol sy’n gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.
Beth i'w wneud:
Bydd angen i chi fod wedi trefnu ymweliad ymlaen llaw gan aelod o’r gymuned leol sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â materion trafnidiaeth. Mae gan orsafoedd trên swyddogion cyswllt â’r gymuned gan amlaf. Gallech hefyd drio gorsafoedd bysiau, neu rywun sy’n ymwneud â menter feicio neu siopau beiciau annibynnol. Rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw fod y disgyblion yn mynd i’w cyfweld er mwyn dysgu mwy am eu swydd, ac am eu barn nhw ynghylch trafnidiaeth gynaliadwy. Byddant hefyd yn cael gwahoddiad i helpu’r disgyblion i lunio cynllun trafnidiaeth ranbarthol gynaliadwy.
I baratoi’r disgyblion, dywedwch wrthynt y byddant yn cael ymweliad gan arbenigwr trafnidiaeth, ac y bydd angen iddynt ei g/chyfweld ynghylch materion trafnidiaeth. Efallai y byddwch chi’n penderfynu peidio â dweud wrth y disgyblion pa swydd yn union y mae’r gwestai cudd yn ei gwneud, felly bydd rhaid iddynt ofyn ychydig o gwestiynau clyfar i gael gwybod.
Dylent ddefnyddio’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu yn y wers i baratoi cwestiynau perthnasol i’w gofyn. Gall cwestiynau gynnwys, er enghraifft, sut mae’r gwestai yn teithio i’r gwaith, neu beth maen nhw’n feddwl am y ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus yn lleol. Byddwch yn barod gydag ambell gwestiwn eich hun rhag ofn y bydd angen cael y drafodaeth yn ôl ar y llwybr cywir, ond ceisiwch ysgogi dialog naturiol os yn bosib.
Efallai y bydd gan y gwestai ychydig o gwestiynau i’r disgyblion hefyd. Efallai y byddwch eisiau annog y disgyblion i feddwl am ddull o gofnodi’r atebion. Mae’n bosibl y byddant yn ei gweld hi'n anodd cymryd nodiadau i ddechrau, ond mae’n rhywbeth y gellir ei ddatblygu dros gyfnod y prosiect. Efallai y byddwch yn gweld tasg ychwanegol o gofnodi yn rhywbeth allai effeithio ar rediad naturiol a gwerth y cyfweliad, felly byddwch yn barod i wneud y cofnodi eich hunan os oes angen.
< Blaenorol![]() Cludiant Cynaliadwy |
Nesaf >![]() Cynllunio Rhanbarthol - Trafnidiaeth |
---|