Byddwch angen:
- 1 x Glôb Aer
Modiwl 1: Y Llun Mawr

Gêm y Glôb
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r gweithgaredd agoriadol hwn yn gwella ymwybyddiaeth disgyblion o’u cysylltiadau byd-eang.
Beth i'w wneud:
Saif y disgyblion mewn cylch gan daflu'r glôb aer i’w gilydd yn eu tro. Wrth ei dal, maent yn pwyntio at wlad y mae ganddynt gysylltiad â hi, ac yn esbonio beth yw’r cysylltiad hwnnw. Dylai pob disgybl ddod o hyd i wahanol fath o gyswllt.
Dechreuwch gydag opsiynau hawdd megis ‘Es i ar wyliau yma’ neu ‘daw fy ewythr o fan hyn’. Ewch ymlaen i’w hannog i feddwl yn fwy rhyng-gysylltiol. Er enghraifft ‘mae’r grawnfwyd ges i i frecwast wedi ei wneud o reis a dyfwyd yn America’, ‘cafodd fy nghrys ei wneud yn India’, ‘ganwyd ymosodwr y tîm pêl droed dwi’n ei gefnogi yng Nghameroon’.
Efallai y bydd y disgyblion yn gweld y gweithgaredd yma’n anodd i ddechrau a byddant angen eu hannog a’u hatgoffa i beidio rhoi’r un enghreifftiau a’u ffrindiau. Meddyliwch am rai enghreifftiau eich hun i’w defnyddio.
Nesaf >![]() Olion Traed |
---|