Byddwch angen:
- 4 can yfed alwminiwm yn cynnwys:
• 3 wedi eu peintio gyda phaent du mat (neu baent bwrdd du) yn cynnwys:
• 2 wedi ei hynysu gyda deunyddiau sy’n ddiogel i’w trin - gwlân dafad er enghraifft yn gorchuddio'r hanner cefn neu dau draean o’r can. O’r rhain:
• 1 wedi ei osod mewn bag plastig clir neu gynhwysydd megis potel glir 2 litr â’r gwaelod wedi ei dorri i ffwrdd. - Thermomedr
- Taflen i gofnodi
Modiwl 3: Ynni

Caniau Ynni Solar
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Arddangosiad diwrnod o hyd (neu hanner diwrnod os yw’r tywydd yn braf!) yn cynhesu dŵr gyda solar. Bydd angen i chi ei baratoi ymlaen llaw.
Beth i'w wneud:
Esboniwch i’r dosbarth eu bod yn mynd i gymryd rhan mewn arbrawf cynhesu dŵr gydag ynni solar. Gofynnwch am wirfoddolwyr i’ch helpu i baratoi’r arbrawf.
Byddwch angen paratoi – un can disglair, un can du di-sglein, un can du di-sglein gydag ynysiad ar yr hanner cefn ac un can du di-sglein gydag ynysiad ar yr hanner cefn ac wedi ei osod mewn bag plastig clir seliedig.
Bydd angen llenwi pob can gyda dŵr oer gan fesur a chofnodi’r tymheredd. Byddwch angen gosod y caniau ar silff ffenest heulog gyda’r ymylon du yn wynebu’r haul. Cymerwch ddarlleniadau o’r tymheredd bob awr (neu’n fwy cyson os yw’n ddiwrnod heulog iawn) gan gofnodi’r tymheredd ar y bwrdd gwyn. Yn fuan iawn (os yw hi’n ddigon heulog!) byddwch yn gweld patrwm clir yn dechrau datblygu.
Bydd y dŵr yn cynhesu’n gynt gyda phob addasiad i’r can. Defnyddiwch hyn i esbonio sut y caiff paneli solar i wresogi dŵr eu gwneud. Gofynnwch i’r disgyblion ar ba adeg o’r flwyddyn y mae cynhesu dŵr gyda solar yn fwyaf effeithiol.
!! Rhybudd: os yw’n ddiwrnod poeth iawn gall y can fynd yn rhy boeth i’w gyffwrdd !!
Nesaf >![]() Olion Traed Ynni |
---|