Modiwl 3: Ynni

Olion Traed Ynni
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn dangos sut y caiff y rhan fwyaf o’n hynni ei gynhyrchu yn y DU ar hyn o bryd.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y lluniau a’r testun a’r wybodaeth isod i arwain trafodaeth.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Olion Traed Ynni (2.65 MB)
Erbyn hyn bydd y disgyblion yn gyfarwydd â’r graff cyntaf.
Esboniwch mai pwnc heddiw yw ynni. Mae’r ail graff yn dangos allyriad ynni wedi ei rannu yn ôl sector yn y DU. Defnyddiwch hyn i dynnu sylw at y ffaith nad ni yn unig sydd angen arbed ynni yn ein cartrefi - mae busnesau, trafnidiaeth a gwasanaethau angen gwneud hyn hefyd.
Dengys y graff nesaf faint o ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ôl y person yn y DU. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer amlinellu’r elfennau mwyaf arwyddocaol, megis yr ynni a ddefnyddir i wneud y stwff a brynwn, o’i gymharu â’r ynni a ddefnyddir gan oleuadau a theclynnau. Er enghraifft, ôl troed carbon peint o laeth ydy 700g ac ôl troed carbon rhedeg oergell fechan ydy tua 500g y diwrnod.
Ar hyn o bryd, daw’r rhan fwyaf o ynni yn y DU ac yn y byd o losgi tanwydd ffosil. Ceir dwy broblem gyda hyn. Yn gyntaf, mae’r olew a’r nwy sy’n hawdd ei gyrraedd yn mynd yn brin. Wrth i olew a nwy brinhau mae’n mynd yn gynyddol ddrud i’w ddarganfod, echdynnu a’i buro; mae hyn yn ein gorfodi i ddod o hyd i opsiynau amgenach neu wynebu gwrthdaro.
Yr ail broblem yw bod llosgi tanwydd ffosil i gael ynni gwres, trydan neu drafnidiaeth yn rhyddhau CO2 i’r atmosffer, gan ychwanegu at yr effaith tŷ gwydr. Yn ychwanegol i’r ddau fater byd-eang hyn, mae echdynnu tanwydd ffosil hefyd yn achosi problemau amgylcheddol yn lleol (bydd llawer o ddisgyblion wedi clywed am drychinebau yn y newyddion megis BP yn colli olew yng Ngwlff Mecsico ond mae’n annhebygol y byddant wedi clywed fod lefelau tebyg o lygredd a niwed yn cael ei achosi o ganlyniad i wledydd tramor yn echdynnu olew yng Ngorllewin Affrica bob blwyddyn).
Bydd hyd yr amser y byddwch chi eisiau ei dreulio yn trafod y materion sy’n berthnasol i ynni niwclear yn dibynnu ar oedran eich grŵp, ac ar yr amser sydd gennych. Mae’r materion perthnasol sydd wedi eu rhestru yn y sleidiau yn ymwneud â chyflenwad wraniwm sy’n prinhau a’r broses o storio gwastraff ymbelydrol. Mae materion eraill yn cynnwys cost, faint o amser ac arian a ddefnyddir i adeiladu a digomisiynu gorsafoedd ynni niwclear, i gludo gwastraff niwclear a’i waredu mewn gwledydd eraill, bygythiadau diogelwch fel yn achos gorsaf bŵer Fukushima yn Japan, a’r targed mae’n ei gyflwyno i derfysgwyr.
Mae’r sleid olaf yn dangos mapiau sy’n datgelu allyriad nwy tŷ gwydr byd-eang yn ôl gwlad, ac yn ôl y pen. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer tynnu sylw at y diffyg cydraddoldeb yn y byd. Mae hefyd yn bwysig er mwyn tynnu sylw at wledydd fel Tsieina, sydd fel gwlad yn allyrrydd mawr iawn. Dengys map yn ôl y pen ddarlun gwahanol iawn serch hynny, wrth ddangos fod pobl sy’n byw yn Tsieina yn allyrru tua hanner y CO2 a ryddheir gan bobl yn y DU, yn ôl y person. Ar ôl trafodaeth am y gymysgedd ynni bresennol, mae’n debygol y bydd disgyblion yn dod i’r casgliad ein bod a) angen defnyddio llai, a b) angen cynhyrchu ynni o ffynonellau eraill.
< Blaenorol![]() Caniau Ynni Solar |
Nesaf >![]() Y Tŷ Gwydr |
---|