Byddwch angen:
- Gweithgaredd i’w lawrlwytho gan CAT (coming soon)
Modiwl 3: Ynni

Y Tŷ Gwydr
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r gweithgaredd hwn y gellir ei lawrlwytho yn caniatau i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynni ar gyfer y cartref i weld sut maen nhw’n cynyddu neu leihau allyriadau.
Beth i'w wneud:
Gweithgaredd ar gyfer y dosbarth cyfan, i’w arwain gan yr athro/athrawes yw hwn. Mae’n cynnwys pâr o graffiau wedi eu taflunio ar sgrin i’r holl ddosbarth eu gweld, sy’n cynrychioli sut mae ein hallyriadau nwy tŷ gwydr ni wedi eu rhannu yn y cartref.
Bydd angen i chi esbonio fod y graffiau yn dangos allyriadau nwy tŷ gwydr y DU yn ôl y person (tua un tunnell ar ddeg ) sydd wedi eu rhannu i ddangos lle daw ein hallyriadau; gwres, bwyd ayb. (dyma ffigwr swyddogol y llywodraeth, cred ymchwilwyr ei fod sawl tunnell yn uwch na hyn os cynhwysir yr allyriadau o nwyddau a gynhyrchir ar ein cyfer mewn gwledydd eraill). Mae’r llinell lorweddol doredig yn agos i waelod y graffiau yn nodi cyfran fyd-eang deg o allyriad nwy ty gwydr, ac yn cynrychioli ein targed ni am leihad.
Daw’r gweithgaredd gyda chyfres o luniau i chi eu defnyddio i roi dewis i’r disgyblion am bethau y maen nhw eisiau eu cynnwys yn y tŷ. (Os ydych chi eisiau gallwch ychwanegu esiamplau go iawn tuag at y lluniau hyn - defnydd ynysu, papurau newydd, gemau ayb). Dechreuwch trwy edrych ar gyfran fwyaf ein hallyriadau - gwres. Defnyddiwch y lluniau i drafod ffyrdd o leihau allyriadau gwres yn y cartref, ee ynysu, ffenestri dwbl ayb ac ychwanegwch ddewisiadau’r disgyblion yn y rhaglen gweithgareddau.
Bydd disgyblion yn gallu gweld eu hallyriadau yn cwympo neu’n codi yn ddibynnol ar eu dewisiadau. Unwaith y bydd mesurau effeithlonrwydd gwres wedi eu gosod, yna gall disgyblion ddewis sut i gynhesu eu cartrefi o’r amrediad o luniau sy’n cynnwys stôf llosgi coed, gwres nwy canolog, tanau glo, ayb. Ewch ymlaen drwy’r gweithgaredd, drwy’r holl sectorau nes eich bod wedi gorffen. Erbyn diwedd y gweithgaredd, mae’n debygol y bydd y disgyblion wedi llwyddo i leihau eu hallyriadau yn sylweddol. Mae’n bwysig trafod gyda’r disgyblion beth sydd wedi newid am eu bywydau.
Yn ddibynnol ar eu dewisiadau, mae’n debygol y byddant yn gallu parhau i fynd ar wyliau, bwyta’n dda, byw mewn cartrefi cynnes a chysurus a theithio’n hawdd, ond efallai y byddant wedi aberthu pethau fel ceir mawr, teithiau awyren a sgriniau teledu llydan. Gofynnwch i’r dosbarth os yw ansawdd eu bywydau wedi gwella neu ddirywio. Siaradwch am bethau fel teulu, chwarae pêl droed ayb. Nid yw’r rhan fwyaf o bethau mae pobl yn eu gwerthfawrogi fwyaf, fel teulu, ffrindiau, cerddoriaeth ayb yn cael effaith fawr ar ein planed.
< Blaenorol![]() Olion Traed Ynni |
Nesaf >![]() Cymryd y Camau |
---|