Byddwch angen:
Modiwl 3: Ynni

Cymryd y Camau
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Beth i'w wneud:
Mae’r gweithgaredd hwn wedi ei addasu o un o rai George Marshall.
Gallwch rannu’r gweithgaredd yn ddau hanner os ydych chi eisiau.
Hanner cyntaf
Dechreuwch trwy gyfeirio at y sleid olaf yn y sleidiau Olion Traed Ynni sy’n dangos allyriad CO2 byd-eang y pen, yn ôl gwlad. Ewch â’r disgyblion i’r neuadd neu i’r maes chwarae. Mae pob disgybl yn dewis gwlad i’w chynrychioli, ac maent i gyd yn sefyll mewn rhes yn erbyn y wal. Esboniwch fod pob tunnell o allyriadau CO2 yn cael eu cynrychioli gan un cam cyfartalog ei faint. (Gallwch ymarfer cymryd camau gyda’ch gilydd os ydych chi eisiau gweithgaredd i gynhesu ac i gysoni maint camau!) Ar ôl cyfri’n ôl, mae pob disgybl yn cymryd y nifer gywir o gamau i adlewyrchu allyriad CO2 y wlad maen nhw wedi ei dewis, ac yna’n stopio. Wrth gwrs, bydd rhai disgyblion yn parhau yn agos i’r wal a bydd eraill wedi teithio 30 cam.
Esboniwch, pe bai pawb yn y byd yn allyrru cyfran gyfartal o CO2, yna byddai pob person yn gallu cymryd 2.5 o gamau. Byddai hyn yn golygu fod y boblogaeth mewn gwledydd ag allyriad uchel yn lleihau eu hallyriadau yn sylweddol, a byddai poblogaethau mewn gwledydd ag allyriad isel yn gallu cynyddu ychydig ar eu hallyriadau i adeiladu isadeiledd sylfaenol. (Yn y diwedd, byddem yn disgwyl lleihau ein hallyriadau byd-eang i ddim byd.)
Ail hanner
Gofynnwch i’r disgybl sy’n cynrychioli’r DU i atgoffa pawb faint o CO2 ydyn ni’n ei allyrru bob blwyddyn - tua 11 tunnell. Esboniwch fod y gweithgaredd hwn yn ffordd o archwilio sut mae ein gweithgareddau bob dydd yn cyfrannu at hyn. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu pa bethau a wnawn i leihau ein hôl troed fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, a pha rai fydd yn gwneud gwahaniaeth bychan.
Dosbarthwch y slipiau papur sy’n disgrifio gweithgareddau bob dydd i bob pâr o ddisgyblion. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys pethau fel ‘defnydd cyfartalog o gar’ neu ‘wylio’r teledu’. Bydd y disgyblion yn meddwl faint o gamau sydd angen iddynt gymryd i gynrychioli eu gweithgaredd. Yna, yn eu tro, mae’r parau o ddisgyblion yn cymryd y camau maen nhw’n meddwl sy’n gywir. Gofynnwch i weddill y disgyblion os ydyn nhw’n cytuno cyn datgelu’r ateb cywir oddi ar eich taflen.
Cofiwch ganiatáu amser i drafod y canlyniadau ar y diwedd. Oedden nhw wedi eu synnu gan unrhyw beth? Mae’n debygol y byddant wedi disgwyl i offer trydan neu fagiau plastig gael mwy o effaith na’r hyn a gânt mewn gwirionedd, ac mae’n bosib y byddant wedi eu synnu fod yr effaith mae hedfan yn ei gael mor fawr.
< Blaenorol![]() Y Tŷ Gwydr |
Nesaf >![]() Ynni Adnewyddol |
---|