Byddwch angen:
- Yr holl ddosbarth mewn grwpiau
- Celloedd ffotofoltaidd bychan, moduron, clipiau crocodeil a llafnau gyrru (propellers) (ar gael yn siop Canolfan y Dechnoleg Amgen a gan ddarparwyr addysg eraill)
- Deunyddiau glân sy’n arnofio - ee poteli plastig (gyda chaeadau), cartonau a chwpanau a chynwysyddion, bandiau rwber
Modiwl 3: Ynni

Pweru gydag... Ynni Solar!
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gweithgaredd grŵp yw hwn sy’n caniatáu i ddisgyblion wneud ymchwil i drydan solar.
Beth i'w wneud:
Mewn parau gall disgyblion arbrofi gyda gwneud cylched gyda phaneli solar ffotofoltaidd bychan. Gadewch i’r plant arbrofi trwy fynd â nhw allan, neu tu fewn, gan ddefnyddio golau artiffisial a golau dydd naturiol, gwahanol onglau, cysgod ayb. Gallant hefyd geisio cysylltu’r paneli â’i gilydd.
Fel dewis arall yn lle ‘llafnau gyrru’ plastig, gallech ofyn i’r disgyblion addurno neu dorri siapiau i mewn i ddarnau bychain o gardfwrdd. Defnyddiwch nodwydd i wneud twll yn y garden i atodi’r modur. Bydd plant iau yn enwedig yn mwynhau gwneud hyn.
Ar ôl arbrofi gyda’r paneli ffotofoltaidd, gallwch adael i’r plant wneud cychod model allan o ddeunyddiau sy’n arnofio er mwyn gallu atodi eu rigiau solar ymlaen iddynt. Gallwch un ai ddefnyddio llafnau plastig bychan, effeithlon o dan y dŵr, neu lafnau mwy sy’n gweithio’n well os yw eu blaenau yn cyffwrdd arwyneb y dŵr. Bydd y disgyblion angen graddau amrywiol o gymorth - bydd llawer yn gallu cysylltu nifer o baneli at ei gilydd ac adeiladu cynlluniau cymhleth heb unrhyw gymorth. Bydd eraill angen mwy o gymorth. Unwaith mae’r cychod i gyd yn barod gallech gael ras.
Mae’n bosib y cewch eich synnu gan gyn lleied o olau sydd ei angen ar baneli ffotofoltaidd i weithio, ond yn amlwg bydd y gweithgareddau hyn yn gweithio’n well ar ddiwrnod braf!
Mae rôl trydan solar ym Mhrydain yn bwysig er mai canran fechan yn unig y bydd yn gallu ei chyfrannu tuag at y gymysgedd ynni adnewyddol gyflawn, oherwydd ein hinsawdd a chyfanswm y trydan a ddefnyddiwn.
< Blaenorol![]() Ynni Adnewyddol |
Nesaf >![]() Pweru gydag... Ynni Gwynt! |
---|