Footprint Futures

www.footprintfutures.org.uk

Footprint Futures
Yr adnodd dysgu ôl-troed eco CA2 a CA3 gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen

Other Guest interview, whole class Activities

  • Traed Mawr
    Gweithgaredd hwyliog i’r dosbarth i gyd yw hwn sy’n dangos sut mae gan ganran fechan o’r boblogaeth fyd-eang olion traed eco mwy na’r mwyafrif.
    (From module Modiwl 1: Y Llun Mawr)
  • Y Tŷ Gwydr
    Mae’r gweithgaredd hwn y gellir ei lawrlwytho yn caniatau i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynni ar gyfer y cartref i weld sut maen nhw’n cynyddu neu leihau allyriadau.
    (From module Modiwl 3: Ynni)
  • Gwestai Cudd
    Gwahoddir ymwelydd o’r diwydiant ynni i’r dosbarth i gael cyfweliad gan y disgyblion.
    (From module Modiwl 3: Ynni)
  • Hanes Stwff
    Mae’r gweithgaredd hwn yn caniatáu i ddisgyblion ymchwilio i sut mae masnach a diwydiant lleol wedi newid dros y blynyddoedd.
    (From module Modiwl 6: Stwff)
  • Cynllunio Rhanbarthol – ‘Stwff’
    Mae’r gweithgaredd grŵp hwn yn caniatáu disgyblion i greu eu cynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y rhanbarth.
    (From module Modiwl 6: Stwff)
  • Y Cynllun Rhanbarthol Cynaliadwy
    Bydd disgyblion yn casglu eu gwaith ar gynllunio rhanbarthol mewn gwersi blaenorol, i greu cynllun cynaliadwy cyflawn ar gyfer y rhanbarth.
    (From module Modiwl7: Meddwl yn Fyd-eang, Ymddwyn yn Lleol)

Things needed for this Module...

Caniau Ynni Solar:
  • 4 can yfed alwminiwm yn cynnwys:
    • 3 wedi eu peintio gyda phaent du mat (neu baent bwrdd du) yn cynnwys:
    • 2 wedi ei hynysu gyda deunyddiau sy’n ddiogel i’w trin - gwlân dafad er enghraifft yn gorchuddio'r hanner cefn neu dau draean o’r can. O’r rhain:
    • 1 wedi ei osod mewn bag plastig clir neu gynhwysydd megis potel glir 2 litr â’r gwaelod wedi ei dorri i ffwrdd.
  • Thermomedr
  • Taflen i gofnodi
Y Tŷ Gwydr:
  • Gweithgaredd i’w lawrlwytho gan CAT (coming soon)
Cymryd y Camau:
Cynllun Rhanbarthol - Ynni:
Pweru gydag... Ynni Solar!:
  • Yr holl ddosbarth mewn grwpiau
  • Celloedd ffotofoltaidd bychan, moduron, clipiau crocodeil a llafnau gyrru (propellers) (ar gael yn siop Canolfan y Dechnoleg Amgen a gan ddarparwyr addysg eraill)
  • Deunyddiau glân sy’n arnofio - ee poteli plastig (gyda chaeadau), cartonau a chwpanau a chynwysyddion, bandiau rwber
Pweru gydag... Ynni Gwynt!:
  • EPK20850
    ‘Wind Kit’ gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen
    (neu becyn ynni gwynt gan gyflenwr addysg arall)
  • Darnau o blastig ‘coriffliwt’ a/neu ddeunyddiau sgrap addas eraill megis cerdyn tenau a phlastig, siswrn, tâp.
  • Gwyntyll fawr drydan gyda llafnau llydan, y rhai sy’n dod gyda chewyll o’u hamgylch ac sy’n eistedd ar y llawr yw’r gorau. (nid yw gwyntyllau ystafelloedd ymolchi tal gyda llafnau tenau yn gweithio cystal.)
Gwestai Cudd:
  • Gwestai cudd o’r diwydiant ynni cynaliadwy. Dylai’r person yma fod yn rhywun sy’n gweithio i osod systemau ynni adnewyddol, neu beiriannydd sy’n eu cynllunio. Gallai fod yn rhywun o’r cyngor gyda chyfrifoldeb am effeithlonrwydd ynni, neu rywun sy’n hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Neu gallai fod yn rhywun o grŵp lleol megis Cyfeillion y Ddaear.

Useful Websites

AddThis Social Bookmark Button

Byddwch angen:

  • EPK20850
    ‘Wind Kit’ gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen
    (neu becyn ynni gwynt gan gyflenwr addysg arall)
  • Darnau o blastig ‘coriffliwt’ a/neu ddeunyddiau sgrap addas eraill megis cerdyn tenau a phlastig, siswrn, tâp.
  • Gwyntyll fawr drydan gyda llafnau llydan, y rhai sy’n dod gyda chewyll o’u hamgylch ac sy’n eistedd ar y llawr yw’r gorau. (nid yw gwyntyllau ystafelloedd ymolchi tal gyda llafnau tenau yn gweithio cystal.)

<< Trosolwg ar y Modiwl

Modiwl 3: Ynni

Pweru gydag... Ynni Gwynt!

Pweru gydag... Ynni Gwynt!

Llwytho i lawr  | Argraffu |

Mae’r gweithgaredd grŵp hwn yn caniatáu i ddisgyblion gynllunio a gwneud eu tyrbinau gwynt eu hunain sy’n cynhyrchu trydan.

Beth i'w wneud:

Bydd y disgyblion eisoes wedi gweld gwahanol fathau o gynlluniau melinau gwynt ar y sleidiau. Efallai y byddwch eisiau ymestyn y wybodaeth hon trwy ddangos mathau eraill o gynlluniau. (Gweler syniadau ymestynnol)

Gosodwch y rig gwynt ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau, a chysylltwch dyrbin a wnaethoch i foltmedr. Defnyddiwch wyntyll drydan fawr i gynrychioli’r gwynt. Gyda chymorth y disgyblion, cofnodwch faint o drydan yr ydych wedi ei gynhyrchu. Mewn grwpiau rhowch dasg i’r disgyblion i gynllunio ac adeiladu eu generaduron eu hunain o blastig ‘coriffliwt (sy’n dod gyda’r pecyn ac y gellir ei archebu gan gyflenwyr addysg), neu unrhyw ddeunyddiau sgrap eraill. Atgoffwch nhw y gallant arbrofi gyda’r nifer, gyda’r siapiau a maint y llafnau. Bydd pob grŵp yn cael both (hub), ac ychydig o begiau pren i gysylltu’r llafnau at y both. Pan maent yn barod, gallant ddod â’u bothau at y rig prawf. Os nad yw’r tyrbin yn troi, ysgogwch nhw i geisio gweld pam. Efallai nad ydynt wedi gosod eu llafnau ar ongl er enghraifft, sy’n achosi i’r gwynt wthio yn erbyn y tyrbin yn hytrach na’i droi, neu mae’n bosib fod y llafnau yn rhy fach a thenau i ddal y gwynt. Gyda chefnogaeth, ysgogwch nhw i arbrofi ychydig gan wella a datblygu eu cynlluniau.

(Mae’r Pecyn Gwynt yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar gyfer cynhyrchu ynni trydan a mecanyddol.)

wind turbine for schools

 
 

Ariennir gan Sefydliad Ceniarth

Wind Powered Website

Gwefan gan Aye-aye Design

© Canolfan y Dechnoleg Amgen