Byddwch angen:
- Pacedi o greision Walkers gydag eicon ‘ôl troed carbon’ (nid oes eicon ar becynnau lluosog a phecynnau arlwyo)
- Dwy eitem debyg wedi eu gwneud o ddeunyddiau gwahanol (e.e. cadair blastig a chadair bren
Modiwl 1: Y Llun Mawr

Olion Traed
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau yn esbonio beth yw olion traed eco ac olion traed carbon.
Beth i'w wneud:
Dangos y sleidiau i’r disgyblion a defnyddio’r wybodaeth yma i arwain trafodaeth.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Olion Traed (1017.08 kB)
Eglurwch i’r disgyblion eu bod yn dechrau prosiect ‘Ôl troed’. Ydyn nhw’n gallu dyfalu beth yw ôl troed? Mae’n bosib y byddant wedi clywed am olion traed carbon sydd ychydig yn wahanol i olion traed eco. Mae olion traed carbon yn cyfrifo faint o CO2 sydd wedi ei allyrru un ai o weithgaredd megis hedfan, neu i wneud cynnyrch megis adeilad. Mae creision Walkers yn un o nifer o gwmnïau sy’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Carbon. Mae ganddynt bellach olion traed carbon ar eu pacedi i ddangos faint o CO2 a allyrrwyd wrth gynhyrchu’r bag creision. Pasiwch y bag creision o amgylch pawb iddynt gael gweld y symbol.
Mae ôl troed eco yn wahanol i ôl troed carbon, gan ei fod yn mesur faint o dir sydd ei angen i gynhyrchu popeth yr ydym ei angen, i ddelio gyda’n gwastraff, ac i orfodogi (dal a chloi) ein hallyriadau CO2. Os oes gennym ôl troed eco mawr, rydyn ni’n defnyddio gormod o dir ac ynni ac yn cael effaith negyddol ar ein planed.
Profwch eu dealltwriaeth trwy gymharu dau beth tebyg sydd wedi eu gwneud o ddeunyddiau gwahanol. Er enghraifft, cadair bren, a chadair blastig gyda choesau metal. O beth mae’r gadair blastig wedi ei gwneud? - efallai na fyddant yn gwybod fod plastig yn cael ei wneud o olew. Rhowch anogaeth iddynt gyda rhai o’r cwestiynau canlynol -
- Faint o dir ac ynni sydd wedi eu defnyddio i echdynnu’r mwynau olew a metal o’r ddaear?
- Faint o ynni a thir a ddefnyddiwyd i droi’r deunyddiau crai yn fetal a phlastig?
- Faint o ynni a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r gadair ei hun?
- Am faint fydd y gadair yn para cyn ei bod yn torri? Pa mor hawdd ydy hi i’w hatgyweirio?
- Faint o dir ac ynni sydd eu hangen i gael gwared â’r gadair ar ddiwedd ei hoes?
Nawr cymharwch hi gyda’r gadair bren. Mae angen tir i dyfu’r goeden, ond llawer llai na’r hyn a ddefnyddiwyd i amsugno’r CO2 a gynhyrchwyd wrth echdynnu’r deunyddiau crai ar gyfer y gadair blastig a metal. Bydd ynni wedi ei ddefnyddio i adeiladu’r gadair bren, ond dim cymaint ag a ddefnyddiwyd i wneud y gadair blastig a metal. Mae’n debygol fod y gadair bren yn haws i’w hatgyweirio a gellir gwneud defnydd arall o’r coed ar ôl i’r gadair gyrraedd diwedd ei hoes, yn wahanol i’r gadair blastig a metal sy’n anoddach ac yn defnyddio llawer o ynni i’w hailgylchu.
Gofynnwch i’r disgyblion pa gadair sydd â’r ôl troed mwyaf. Mae’n debygol y byddant yn ateb yn gywir, mai’r gadair blastig a metal sydd â’r ôl troed mwyaf, ond os ddim, treuliwch fwy o amser yn arddangos enghreifftiau eraill.
Gofynnwch i’r disgyblion faint o blanedau fel y Ddaear maen nhw’n ei feddwl y byddem eu hangen, petai pawb ar y blaned yn byw yn yr un modd â ninnau yng Nghymru. Yr ateb yw bron i dair.
< Blaenorol![]() Gêm y Glôb |
Nesaf >![]() Traed Mawr |
---|