Byddwch angen:
- Papur a Phensiliau
Modiwl 4: Adeiladau

Canlyniadau adeiladu
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Bydd y gêm gyflym hon yn caniatau i ddisgyblion gynllunio eu hadeiladau cynaliadwy eu hunain mewn ffordd hwyliog.
Beth i'w wneud:
Rhoi darn o bapur a phensil i bob plentyn. Esboniwch mai gêm yw hon i gynllunio tŷ eco (ecolegol) yn gyflym. Dim ond gêm i gynhesu pawb yw hon a bydd yr elfen o gyflymder yn ychwanegu at yr hwyl ac yn eu hysgogi i feddwl yn gyflym. Gofynnwch i bob plentyn dynnu llun o waliau yn unig ar gyfer eu tŷ eco (dim to, ffenestri, drysau ayb) gan nodi yn glir o beth mae’r waliau wedi eu gwneud. Esboniwch y gellir rhoi mwy nag un haen i’r waliau, wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau. Rhowch funud neu ddwy iddynt yn unig. Yna dylent basio’r llun ymlaen i’r person sy’n eistedd drws nesaf iddynt. Nawr gofynnwch i bob plentyn i ychwanegu to i’r waliau. Unwaith eto, rhowch funud neu ddwy iddynt a bydd angen iddynt labelu’r deunyddiau a ddefnyddir, fel o’r blaen. Pasiwch nhw ymlaen eto. Gwnewch yr un peth ar gyfer ffenestri, drysau ac un tro arall am unrhyw beth ychwanegol er mwyn ysgogi creadigrwydd. Gwnewch oriel o’r lluniau fel y gall pawb arall eu gweld. Trafodwch rai o’r arweddion mwyaf cyffredin a’r rhai mwy anghyffredin, ond peidiwch â bod yn feirniadol.
Nesaf >![]() Olion Traed Adeiladu |
---|