Byddwch angen:
- Safle i ymweld ag ef. Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen nifer o adeiladau cynaliadwy wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau (dolen i wefan CAT) ond efallai y byddwch eisiau ymweld â rhywle yn agosach i’r ysgol.
- Os nad ydych yn gallu dod o hyd i unrhyw enghreifftiau o adeiladau cynaliadwy i ymweld â nhw, ceisiwch ddarganfod mwy am adeiladau lle mae arweddion arbed ynni wedi eu hychwanegu, megis deunydd ynysu.
- Hyd yn oed os nad ydych yn gallu dod o hyd i enghreifftiau cynaliadwy positif, bydd yn werth gadael y dosbarth. Archwiliwch adeilad traddodiadol yn defnyddio deunyddiau naturiol – efallai fod gan y deunyddiau hyn ynni ymgorfforedig isel, ond pa mor ynni effeithlon yw’r adeilad pan gaiff ei ddefnyddio? Neu gallwch hyd yn oed archwilio enghreifftiau gwael – bydd disgyblion yn elwa llawer o fedru defnyddio eu gwybodaeth yn y modd hwn.
Modiwl 4: Adeiladau

Ymweld â Lleoliad
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Trip maes i’r holl ddosbarth sy’n caniatau i ddisgyblion archwilio’r hyn maent wedi ei ddysgu â’u llygaid eu hunain.
Beth i'w wneud:
Trefnwch drip i weld adeilad neu gasgliad o adeiladau. Yn ddelfrydol byddwch yn anelu i ddangos enghreifftiau o arfer da i’r disgyblion. Bydd trip i Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yn arddangos llawer o adeiladau sy’n defnyddio amrediad o ddeunyddiau gydag ynni ymgorfforedig isel. Ymchwiliwch i ‘adeiladau eco’ ger eich ysgol. Ar ôl gweld y cyflwyniad ymlaen llaw, bydd disgyblion yn gallu asesu’r adeilad o’u safbwynt nhw. Er enghraifft, gelwir llawer o adeiladau modern yn ‘eco-effeithlon’ gan eu bod yn ynni-effeithlon iawn i’w defnyddio, ond mae’n dal yn bosib eu bod wedi eu gwneud o ddeunyddiau ynni ymgorfforedig uchel, fel concrid.
Does dim bwys os nad yw eich trip maes yn arddangos arferion arbennig. Y peth pwysicaf yw cael y disgyblion yn ymchwilio a thrafod y materion hyn eu hunain. Os nad oes adeiladau eco o gwbl sy’n ddigon agos i chi ymweld â nhw, neu os ydych chi’n brin o amser, yna cerwch a nhw i lawr y stryd. Mae archwilio adeiladau eco-aneffeithlon yn ymarfer sydd yr un mor werthfawr, oherwydd bydd yn eu hysgogi nhw i wthio am welliannau! Penderfynwch chi os yw’n addas i’r disgyblion gofnodi’r hyn maent yn ei weld ai peidio. Bydd lluniau, nodiadau, ffotograffau a recordiad fideo i gyd yn gweithio fel dulliau o brocio’r cof. Byddai’n ddefnyddiol iawn trefnu cyfweliad gyda rhywun sy’n gysylltiedig â’r adeilad. Gall hyn fod yn bensaer, gofalwr, neu breswylydd. Fel yn y cyfweliadau blaenorol, gofynnwch i’r disgyblion baratoi cwestiynau perthnasol ymlaen llaw, ond peidiwch atal llif naturiol y sgwrs - erbyn hyn dylai eu sgiliau cyfweld fod yn gwella, a dylent fedru adeiladu ar yr atebion trwy ofyn am fanylion pellach, neu gwestiwn cysylltiedig, yn hytrach na rhygnu drwy’r rhestr o gwestiynau heb wrando ar yr atebion!
Pwyntiau penodol i’w harchwilio yn ystod yr ymweliad yw:
- O beth mae’r deunyddiau adeiladu wedi eu gwneud
- Osgo’r adeilad (wynebu’r de am fanteision solar)
- Defnydd o wydr. Gall defnyddio gwydr dwbl neu driphlyg ar ffenestri sy’n wynebu’r de neu ystafelloedd gwydr wneud defnydd o solar goddefol. Yn union fel yr effaith tŷ gwydr, gall ynni’r golau basio drwy wydr, ond pan mae’n newid i ynni gwres, caiff ei ddal gan y gwydr.
- Ydy’r adeilad yn agos i gyfleusterau megis siopau neu safle dal bws, neu a fydd pobl angen ceir i gyrraedd yno?
- Mesurau effeithlonrwydd ynni – sut mae wedi ei ynysu?
- Defnydd o ddeunyddiau lleol
- Estheteg – ydyn nhw’n hoffi ei olwg?
- Oes yna ardal werdd er mwyn tyfu pethau?
< Blaenorol![]() Olion Traed Adeiladu |
Nesaf >![]() Adeiladau Eco |
---|