Byddwch angen:
- Map mawr o’r byd y gallwch gerdded arno – does dim rhaid i hwn fod yn gywir, byddai diagram sialc ar y maes chwarae yn iawn. Mae angen iddo fod yn ddigon mawr i saith o
- ddisgyblion allu sefyll ar y tir yn gyfforddus.
- Pâr mawr iawn o esgidiau cardfwrdd - gall gwneud yr esgidiau ymlaen llaw fod yn rhan o’r gweithgaredd
- Neu gallwch brynu’r gweithgaredd wedi ei wneud yn barod gan TTS
Modiwl 1: Y Llun Mawr

Traed Mawr
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gweithgaredd hwyliog i’r dosbarth i gyd yw hwn sy’n dangos sut mae gan ganran fechan o’r boblogaeth fyd-eang olion traed eco mwy na’r mwyafrif.
Beth i'w wneud:
Casglwch y grŵp o amgylch map llawr o’r byd. Gofynnwch am saith i wirfoddoli. Dywedwch wrthynt eu bod yn cynrychioli pobl y blaned. Fedran nhw ddyfalu pam saith? Mae pob person yn cynrychioli un biliwn o bobl (poblogaeth y byd yw tua 6.8 biliwn i fod yn fanwl gywir ond disgwylir i hyn gyrraedd 7 biliwn erbyn 2012).
Mae’r disgyblion yn sefyll ar ardal o dir – ni ddylai dim o’u traed fod yn y môr. Dylent i gyd fedru ffitio’n eithaf tyn ar y tir.
Mae’r dosbarth yn enwebu un o’r saith (gallwch wneud jôc am bwy yw’r mwyaf ‘bossy’ efallai!) i wisgo’r esgidiau mawr. Aiff y disgybl yma yn ôl i sefyll ar y map gan ofalu peidio rhoi troed yn y môr. Nawr mae angen i’r chwech arall wasgu yn ôl ymlaen hefyd. Dylai hyn arwain at wthio chwareus, neu waith tîm cymwynasgar!
Trafodwch beth sy’n digwydd i’r bobl sy’n methu ffitio ar y tir. Yn nhyb y plant, beth mae’r gêm yn cynrychioli? Dylent fedru dyfalu mai cynrychiolaeth ydyw o’r ffaith fod gan ganran fechan o’r boblogaeth olion traed eco mawr (defnyddio gormod o dir ac ynni) a’u bod yn cael effaith negyddol ar weddill poblogaeth y byd sydd ag ‘olion traed’ llawer llai.
< Blaenorol![]() Olion Traed |
Nesaf >![]() Y Llun Mawr |
---|