Modiwl 4: Adeiladau

Adeiladau Eco
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn dangos sawl math o adeiladau eco ac adnewyddiadau eco.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y lluniau a’r testun a’r wybodaeth isod i drafod gyda’r disgyblion.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Adeildadau Eco (4.27 MB)
Y prif bwyntiau i’w hamlygu yn y sleidiau ydy’r amrediad o gyfleoedd sydd gennym i adeiladu gyda deunyddiau sydd ag ynni ymgorfforedig isel. Bydd gan unrhyw ddeunyddiau a arferai fod yn blanhigion, boed hynny’n goed, gwellt, neu gywarch, swm penodol o CO2 wedi ei storio ynddynt. Cyn i sment, concrid a dur ddod yn hawdd cael gafael arnynt o ganlyniad i brisiau ynni rhad, gwnaethpwyd y rhan fwyaf o adeiladau o ddeunyddiau lleol. Mae adeiladau newydd yn gyffrous a phwysig. Ond mae’r rhan fwyaf o adeiladau y byddwn ni eu hangen erbyn 2050 wedi eu hadeiladu yn barod. Felly mae eco-adnewyddu ein cyflenwad o adeiladau presennol yr un mor bwysig ag adeiladau newydd.
< Blaenorol![]() Ymweld â Lleoliad |
Nesaf >![]() Adeiladwch ef Eich Hun! |
---|