Byddwch angen:
- Bocsys cardfwrdd
- Deunyddiau crefft, papur, siswrn, glud ayb
- Plastig clir (ee y ffenestri ar becynnau bwyd wedi eu prosesu, neu hen bocedi plastig clir A4)
Casgliad o gynlluniau paneli ffotofoltaidd, paneli cynhesu dŵr â solar, teils ayb wedi eu hargraffu. (687.54 kB)
Modiwl 4: Adeiladau

Adeiladwch ef Eich Hun!
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gweithgaredd grŵp ymarferol yw hwn lle gall disgyblion gynllunio a gwneud modelau o’u hadeiladau eco eu hunain allan o focsys.
Beth i'w wneud:
Dyma gyfle’r plant i roi'r hyn maent wedi ei ddysgu ar waith, trwy gynllunio ac adeiladu eu tai eu hunain. Bydd faint o amser yr ydych eisiau dreulio ar y prosiect yn pennu faint o amser yr ydych yn rhoi iddynt i gynllunio eu hadeiladau a chasglu deunyddiau. Mae’n bosib gwneud y gweithgaredd hwn yn gyflym, drwy hepgor y cymal cynllunio a rhoi deunyddiau wedi eu paratoi ymlaen llaw iddynt. Neu efallai y byddwch eisiau ymestyn y gweithgaredd i brosiect llawer helaethach lle caiff y disgyblion eu hysgogi i fod yn greadigol a dyfeisgar wrth gynllunio a gwneud eu deunyddiau eu hunain. Gall y disgyblion un ai weithio fel unigolion, mewn parau, neu grwpiau bychain.
Byddwch angen casgliad o focsys cardfwrdd i ffurfio’r prif strwythur. (Y math o focsys sy’n dal papur A4, er enghraifft). Byddwch hefyd angen pentwr o ddeunyddiau sgrap ychwanegol wedi eu casglu ymlaen llaw. Gellir defnyddio dalennau o blastig clir fel gwydr. Gellir defnyddio deunydd pacio gyda swigod fel deunydd ynysu, ond gallwch hefyd gael gafael ar ddeunydd ynysu go iawn megis gwlân defaid, er enghraifft. Gallwch ddarparu taflenni wedi eu hargraffu o ddeunyddiau megis paneli ffotofoltaidd, toeon tywyrch, neu baneli cynhesu dŵr â solar i’r plant i’w gosod ar eu hadeiladau:
Adeiladwch ef Eich Hun! - taflenni wedi eu hargraffu o ddeunyddiau (687.54 kB)
Byddant eisiau ychwanegu llawer o’r addurniadau eu hunain. Ni ddylid cyfyngu ar eu creadigrwydd mewn unrhyw ffordd, ond ceisiwch eu hannog i ymgorffori’r hyn maent wedi ei ddysgu. Dylai’r disgyblion fedru disgrifio sut maent wedi delio ag:
- Effeithlonrwydd ynni
- Ynni adnewyddol
- Ynni ymgorfforedig
- Lleoliad
- Ardal werdd
< Blaenorol![]() Adeiladau Eco |
Nesaf >![]() Cynllunio Cynaliadwy - Adeiladau |
---|