Byddwch angen:
- Gallech wahodd y person a gyfwelwyd ar yr ymweliad safle i helpu gyda’r gweithgaredd hwn
- Mapiau a matiau gyda lluniau o’r rhanbarth o’r awyr os oes gennych chi rai
- Amrywiaeth o gyfryngau ar gyfer gwneud cofnodion
Modiwl 4: Adeiladau

Cynllunio Cynaliadwy - Adeiladau
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Bydd y disgyblion yn defnyddio beth maent wedi ei ddysgu i greu cynllun rhanbarthol cynaliadwy ar gyfer adeiladau.
Beth i'w wneud:
Erbyn hyn bydd y disgyblion yn gyfarwydd â’r drefn o ddefnyddio’r matiau llun o’r awyr neu’r mapiau lleol er mwyn rhoi’r hyn maent wedi ei ddysgu yng nghyd-destun eu hardal leol. Er na fydd y mapiau yn dangos manylion digonol ar gyfer adeiladau unigol, byddant yn cael golwg gyffredinol o’r amgylchedd sydd wedi ei hadeiladu’n lleol. Wrth weithio ar gynllun adeiladu rhanbarthol cynaliadwy i’r ardal, ysgogwch nhw i feddwl am ba fath o ofynion fydd eu hangen yn y dyfodol agos:
- Fyddwn ni angen mwy o dai, mwy o adeiladau diwydiannol, mwy o adeiladau cymunedol?
- Pa fath o adeiladau newydd ddylid eu codi?
- Beth am y cyflenwad o adeiladau presennol – a ellir eu hadnewyddu’n hawdd?
Cofnodwch eu cynlluniau mewn cyfrwng o’ch dewis.
< Blaenorol![]() Adeiladwch ef Eich Hun! |
Nesaf >![]() Adroddiad |
---|