Modiwl 6: Stwff

Olion Traed ‘Stwff’
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn tynnu sylw at rai o effeithiau byd-eang y stwff a brynwn.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y lluniau a’r testun a’r wybodaeth isod i drafod gyda’r disgyblion.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Olion Traed Stwff (2.85 MB)
Esboniwch y byddan nhw’n astudio’r darn o’r ôl troed sy’n cynrychioli’r ‘stwff’ a brynwn yr wythnos hon. Cyn edrych ar y siart pei o allyriadau ‘stwff’, gofynnwch i’r disgyblion pam eu bod nhw’n meddwl fod y gyfran hon o’r graff ôl troed mor fawr. Defnyddiwch yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu mewn gwersi blaenorol, ac yn y gweithgaredd agoriadol. Dim ond yn weddol ddiweddar y mae pobl wedi bod yn cymryd sylw o effaith fawr y nwyddau a brynwn. Y rheswm am hyn yw fod llawer o’r nwyddau hyn wedi eu gweithgynhyrchu dramor, felly mae’n anodd iawn cyfrifo eu hallyriadau. Mae hi wedi bod yn llawer haws i gyfrifo allyriadau sy’n dod yn uniongyrchol o’r DU.
Wrth gwrs, ceir pethau eraill sydd wedi eu cuddio, yn ogystal ag allyriadau nwy tŷ gwydr. Nid oes gan rai gwledydd ddeddfau amgylcheddol llym er enghraifft. Pan oed Prydain yn wlad ddiwydiannol flaenllaw, caed achosion o nentydd ac afonydd yn llifo mewn lliw gwahanol bob dydd a hynny o weddillion llifynnau’r diwydiant brethyn. Mae hi bellach yn demtasiwn i feddwl ein bod ni wedi gwella ein ffyrdd. Wrth gwrs - mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym wedi’i wneud yw allforio ein diwydiannau mwyaf llygrol.Er enghraifft,, mae 40-60,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i blaladdwyr yn y diwydiant cotwm.
Mae hi hefyd yn demtasiwn i feddwl ein bod wedi gwella ein ffyrdd yn nhermau llafur plant a chaethwasiaeth gan na chaniateir hyn mwyach o dan gyfraith Prydain. Unwaith eto, serch hynny, yr hyn yr ydym wedi ei wneud mewn gwirionedd yw allforio’r arferion hyn. Mae’n bosibl y bydd y disgyblion yn gyfarwydd â straeon diweddar yn y newyddion am gwmnïau fel Primark a Gap.
< Blaenorol![]() Lein Ddillad Fyd-eang |
Nesaf >![]() Hanes Stwff |
---|