Byddwch angen:
- Mapiau hanesyddol o’r rhanbarth
- Dogfennau, archifau rhanbarthol ayb, pobl hŷn
Modiwl 6: Stwff

Hanes Stwff
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r gweithgaredd hwn yn caniatáu i ddisgyblion ymchwilio i sut mae masnach a diwydiant lleol wedi newid dros y blynyddoedd.
Beth i'w wneud:
Ar gyfer y gweithgaredd hwn byddwch angen hen fapiau ac archifau o’r rhanbarth ac unrhyw fath arall o ddeunyddiau perthnasol eraill y gallwch ddod o hyd iddynt – data cyfrifiad, arteffactau, ymweliadau arddangosfeydd, pobl i ddod i siarad.
Y syniad yw bod disgyblion yn ymchwilio’r deunyddiau, unai mewn grwpiau, parau, neu fel dosbarth, a chael syniad cyffredinol o sut y mae diwydiant, cynhyrchiant a busnes yn y rhanbarth wedi newid a datblygu dros amser. Gallwch ganolbwyntio ar gyfnod penodol os ydych yn dymuno, neu gallwch adeiladu persbectif ehangach heb fynd mor ddwfn. Caniatewch i’r disgyblion ymchwilio elfennau sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Mae hoelio’u dychymyg a’u diddordeb yn y rhanbarth yn un o’r datblygiadau allweddol. Mae’r math o wybodaeth y gallwch ddisgwyl dod o hyd iddo yn gysylltiedig â data’r cyfrifiad - pa fath o fasnach leol oedd yn bodoli yn y gorffennol? Gwneuthurwyr rhaffau? Gweithwyr rheilffyrdd? Pa fath o ‘stwff’ oedd yn cael ei werthu’n lleol?
Gallwch dreulio cymaint o amser ag y mynnwch ar y gweithgaredd hwn. Wrth gwrs, mae hefyd yn berthnasol i’r holl themau eraill yn y prosiect – gallwch hefyd ddysgu am drafnidiaeth yn y gorffennol, cynhyrchu bwyd, neu ynni er enghraifft. Efallai y dewch o hyd i chwareli, rheilffyrdd a diwydiannau adeiladu llongau sydd wedi diflannu. Ar gyfer y wers hon, ceisiwch ddarganfod am siopau’r brif stryd. Beth roedden nhw’n arfer eu gwerthu?
Prif fwriad y wers yw i ddisgyblion ddeall fod newidiadau mawr wedi bod yn y ffordd y mae pobl wedi byw a gweithio yn y rhanbarth. Gofynnwch iddyn nhw ddarganfod y rhesymau dros y newidiadau hyn. Byddwch chi angen eu helpu trwy ddysgu am ddigwyddiadau lleol neu genedlaethol o bwys.. Er enghraifft mae’n bosib fod dyfodiad y rheilffyrdd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal trwy agor cysylltiadau masnach newydd. Byddai dyfeisiad yr oergell ddomestig wedi newid arferion siopa yn sylweddol. Ceisiwch beidio â phoeni gormod am lefel y manylder - os yw disgyblion wedi eu hysbrydoli i ddarganfod mwy ac wedi datblygu diddordeb yn y rhanbarth, mae hynny’n ddigon i adeiladu arno gyda’r gwaith sydd i ddilyn.
Sgwrsiwch â’r disgyblion am effaith nwyddau a diwydiannau. Oedd gan bobl amodau gweithio teg? Beth am effaith yr amgylchedd lleol a byd-eang? Beth am ynni ymgorfforedig y nwyddau a werthwyd?
Byddwch yn darganfod rhai datblygiadau diddorol. Pan ddaeth y rheilffyrdd glo am y tro cyntaf,roedden nhw’n achosi mwy o lygredd nag unrhyw ffurf arall o drafnidiaeth. Nawr, mae teithio ar drên yn un o’r ffyrdd glanaf o symud o un lle i’r llall. Mae cloddio am fetelau gwerthfawr yn weithgaredd gwenwynig sy’n llygru’r tir a’r systemau dŵr. Ceir ychydig o dir sy’n dal yn anaddas ar gyfer ffermio tir âr o ganlyniad i grynodiad o fetelau trwm, flynyddoedd ar ôl i’r pyllau gau. Gofynnwch i’r disgyblion os ydyn ni’n dal i ddibynnu ar yr arferion hyn? Ydyn nhw’n dal i lygru hyd yn oed os nad ydynt yn ein cymdogaeth mwyach?
Mae’n debygol fod y math o ‘stwff’ a werthwyd mewn siopau ar y brif stryd yn cael llai o effaith na ‘stwff’ a werthir heddiw. Gofynnwch i’r disgyblion feddwl am y rhesymau sy’n esbonio hyn. Roedd nwyddau yn fwy tebygol o fod wedi eu gwneud o ddeunyddiau lleol, neu o ddeunyddiau crai oedd wedi eu mewnforio yn swmp ar long. Adeiladwyd nwyddau mewn ffordd symlach, fe’u hadeiladwyd i bara a gellid eu hatgyweirio. Ydyn nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i dystiolaeth o wasanaethau atgyweirio? Beth ellid ei atgyweirio? Sut mae hynny’n cymharu â nawr?
< Blaenorol![]() Olion Traed ‘Stwff’ |
Nesaf >![]() Stwff Da |
---|