Modiwl 6: Stwff

Stwff Da
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn tynnu sylw at rai enghreifftiau cynaliadwy o’r ‘stwff’ a brynwn heddiw, yn cynnwys cynnyrch organig a Masnach Deg.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y lluniau a’r testun a’r wybodaeth isod i drafod gyda’r disgyblion.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Stwff Da (3.61 MB)
Cyn dangos y sleidiau, gofynnwch i’r disgyblion os fedran nhw feddwl am enghreifftiau o ‘stwff’ sydd ddim yn cael effaith fawr ar y bobl a’r blaned. Gyda phob llun, rhowch gyfle iddyn nhw ddyfalu beth yw’r eitemau, a beth sy’n eu gwneud yn enghreifftiau o gynllun effaith isel.
Dylai’r disgyblion ddod i’r casgliad mai lleihau faint o stwff a brynwn yn y lle cyntaf fydd yn cael yr effaith bositif fwyaf. Yn ail, dylent ystyried os ellir atgyweirio neu ail-ddefnyddio pethau. Os ydynt angen prynu ‘stwff’ newydd, yna byddai’n opsiwn da i wario mwy o arian ar eitemau sy’n para’n hir ac sydd wedi eu gwneud mewn amodau sy’n ffafriol i bobl a phlaned.
< Blaenorol![]() Hanes Stwff |
Nesaf >![]() Tua’r siopau a ni! |
---|