Byddwch angen:
- Siopau lleol a staff
Modiwl 6: Stwff

Tua’r siopau a ni!
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Trip maes yw hwn fydd yn caniatáu i ddisgyblion ymchwilio’r ‘stwff’ a werthir yn lleol drostynt eu hunain, a darganfod mwy gan berchnogion siopau am darddiad y nwyddau y maent yn eu gwerthu.
Beth i'w wneud:
Byddwch angen trefnu’r trip maes hwn ymlaen llaw gyda pherchnogion y siopau. Bydd natur y trip yn amrywio’n fawr yn ôl rhanbarth eich ysgol. Efallai eich bod wedi eich lleoli mewn pentref heb siopau ac os felly gallech ystyried taith bws i’r man siopa agosaf. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i gael stryd o siopau annibynnol, efallai na fydd gennych ond archfarchnad fawr, neu ganolfan o siopau brand. Beth bynnag yw’r sefyllfa cyn cychwyn, atgoffwch y disgyblion i edrych am dystiolaeth o newid dros y blynyddoedd. Sut oedd yr ardal siopa yn arfer edrych yn ôl tystiolaeth eu hymchwil? Byddwch hefyd angen gofyn i staff y siopau ymlaen llaw os fydden nhw’n fodlon cael eu cyfweld gan y disgyblion.
Byd y disgyblion angen gwneud hyn mewn grwpiau bach fel nad ydyn nhw’n gordyrru’r siopau, felly gwnewch yn siwr fod gennych ddigon o staff cefnogi ar gyfer y trip. Bydd angen i’r disgyblion dreulio ychydig o amser yn paratoi eu cwestiynau ymlaen llaw, ond fel bob tro arall atgoffwch nhw i wrando’n astud ar atebion ac, os yn briodol, i addasu eu cwestiynau.
Os ydych yn mynd i archfarchnadoedd neu siopau cadwyn mawr, mae’n debygol na fydd staff y siop yn gallu ateb rhai o gwestiynau’r disgyblion am darddiad y nwyddau y maent yn eu gwerthu. Efallai hefyd eu bod yn agored i farchnata sy’n cyfateb i’r hyn mae’r disgyblion wedi ei ddysgu. Sicrhewch eich bod yn treulio amser yn y dosbarth cyn ac ar ôl y trip maes, i drafod y materion hyn. Mae’n gyfle gwych i’r disgyblion i ffurfio eu barn eu hunain am y gwahanol ffynonellau posib o wybodaeth, ac i ddysgu cytuno neu anghytuno yn gwrtais.
< Blaenorol![]() Stwff Da |
Nesaf >![]() Cynllunio Rhanbarthol – ‘Stwff’ |
---|