Byddwch angen:
- Tair basged siopa, un wedi ei labelu gydag ôl troed fach, un gyda label ôl troed ganolig a’r trydydd gydag ôl troed fawr.
- Llawer o bacedi bwyd gwag, neu fwyd go iawn, a/neu luniau neu fodelau o fwyd, sy’n cynrychioli diet ôl troed uchel, canolig ac isel.
- Troli siopa neu focs cardfwrdd mawr.
Modiwl 5:Bwyd

Her y Fasged Siopa
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r gêm fywiog hon yn golygu rhannu’r disgyblion yn dimau a’u herio i drefnu pecynnau bwyd i mewn i fasgedi siopa ôl troed isel ac ôl troed uchel, am y cyntaf.
Beth i'w wneud:
Gêm i gynhesu yw hon fydd yn caniatáu i chi asesu lefel dealltwriaeth bresennol y disgyblion ynghylch materion cynaladwyedd bwyd. Byddwch angen tipyn o le ar lawr, gan mai ras gyfnewid tîm yw hi. Gosodwch dair basged siopa wag ar ben pellaf yr ystafell, wedi eu labelu yn glir gydag ôl troed fach, ôl troed ganolig ac ôl troed fawr:
>> Labeli ôl troed y gellir eu dadlwytho (PDF)
Gosodwch un cynhwysydd mawr (byddai troli siopa yn wych, ond fel arall bin neu focs mawr) ar ben arall yr ystafell, gyda’r holl eitemau bwyd ynddo. Dylai’r eitemau bwyd fod yn gymysgedd o fwydydd ôl troed uchel, canolig ac isel, neu’n eitemau sy’n cynrychioli’r bwydydd. Gallech ddefnyddio cynwysyddion bwyd gwag, lluniau o fwyd, neu fwyd go iawn i ychwanegu at y cyffro. Rhannwch y dosbarth yn dri thîm, a gosodwch nhw mewn llinellau ar yr un pen o’r ystafell â’r cynhwysydd sy’n dal y siopa. Ar ôl cyhoeddi dechrau’r ras mae’r plentyn cyntaf ymhob tîm yn rasio at y cynhwysydd, cydio mewn unrhyw eitem o fwyd, rhedeg i ben arall yr ystafell a’i daflu i’r fasged maen nhw’n feddwl sydd fwyaf addas. Parhewch nes bod yr holl fwyd wedi ei ddosbarthu. Yna casglwch y disgyblion o amgylch y basgedi a gwiriwch y cynhwysion gyda nhw. Ar y pwynt hwn nid oes angen i chi roi mwy o wybodaeth iddynt, dim ond annog trafodaeth ynglyn â pham eu bod wedi dewis y basgedi a wnaethant, a gweld trwy drafodaeth gyda gweddill y dosbarth os ydynt yn hapus gyda’u dewis, neu os ydynt eisiau newid eu meddwl. Esboniwch y byddant yn ail-ymweld â’r basgedi ar ddiwedd y sesiwn i weld os yw eu syniadau wedi newid yn ystod y dydd.
Nesaf >![]() Olion Traed Bwyd |
---|