Modiwl 5:Bwyd

Olion Traed Bwyd
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleidiau hyn yn dangos y materion cynaladwyedd ynghlwm â llawer o’r bwyd yr ydym yn ei gynhyrchu a’i fwyta yn y DU.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y lluniau a’r testun a’r wybodaeth isod i drafod gyda’r disgyblion.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Olion Traed Bwyd (4.42 MB)
Wrth i chi fynd drwy’r lluniau, mae’n syniad da gofyn am yr atebion gan y disgyblion cyn dangos y testun iddynt. Felly er enghraifft, gofynnwch iddynt pam eu bod nhw’n meddwl fod ôl troed bwyd mor fawr? Gofynnwch iddynt pam eu bod yn meddwl fod y sector amaethyddiaeth yn cynrychioli darn mor fawr o’r siart pei? Bydd hyn yn rhoi amser iddynt hel eu meddyliau eu hunain ac ymateb yn ystyrlon, a’u hysgogi i ddarganfod beth yw’r atebion.
Mae’n gred gyffredin mai trafnidiaeth sy’n bennaf gyfrifol am yr effaith fawr a gaiff bwyd. Mewn gwirionedd, y ffordd y caiff bwyd ei dyfu a’i gynhyrchu sy’n cael yr effaith fwyaf. Tyfir y rhan fwyaf o fwyd yn ddwys gyda gwrtaith. Gwneir gwrtaith gyda nwy, felly mae eu gweithgynhyrchu nhw’n cael effaith fawr i ddechrau. Ond caiff yr effaith mwyaf ei achosi ar ôl gwasgaru’r gwrtaith - ni chaiff yr holl nitrogen ei amsugno gan y planhigion, ac fe’i rhyddheir i mewn i’r atmosffer ar ffurf ocsid nitraidd - nwy tŷ gwydr sydd oddeutu 300 gwaith yn fwy pwerus na CO2. Gan fod anifeiliaid fferm angen bwyta hefyd, defnyddir llawer o amaeth dwys megis tyfu ffa soia a thir pori wedi ei wrteithio’n drwm i gynhyrchu’r bwyd ar gyfer anifeiliaid, sy’n golygu defnydd hynod aneffeithiol o adnoddau tir ac ynni am swm cymharol fach o gig a llaeth. Cynhyrchir methan hefyd gan anifeiliaid cnoi cil megis gwartheg a defaid ac mae methan yn nwy tŷ gwydr sydd 23 gwaith yn gryfach na CO2. Dyna pam fod galw wedi bod yn ddiweddar am fwyta llai o gig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Dydy newid i ddiet llysieuol ddim llawer gwell chwaith o reidrwydd, os yw’n arwain at fwyta mwy o gynhyrchion llaeth a chynhyrchion wedi eu prosesu’n ddwys.
Mae gan weithgynhyrchu a phrosesu bwyd ôl troed mwy na thrafnidiaeth. Gwneir llawer o becynnau o blastig a gaiff ei wneud o olew. Mae hyd yn oed pecynnau wedi eu hailgylchu yn defnyddio llawer o ynni i’w gwneud. Er bod bwyd a wneir mewn ffatrïoedd yn aml wedi ei wneud mewn poptai mawr effeithlon, bydd angen ei oeri neu ei rewi am gyfnodau hir mewn storfeydd, loriau, archfarchnadoedd ac yn y cartref. Mae hyn yn defnyddio llawer o ynni.
Er bod trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfran lai o’r allyriadau nac mewn sectorau eraill, mae’n ardal â lle i wella. Mae systemau masnachu presennol yn gymhleth, ac rydym yn aml yn mewnforio cymaint ag yr ydym yn ei allforio o gynnyrch penodol, llaeth er enghraifft. Mae costau llafur yn rhatach mewn rhai gwledydd nag eraill felly fe geir llawer o enghreifftiau fel yr un am gorgimychiaid yn cael eu ffermio yn yr Alban, eu cludo ar long i Wlad y Thai i’w pilio a’u prosesu, ac yna’n ôl i’r Alban i gael eu gwerthu fel bwyd ‘lleol’. O’i gymharu â ffurfiau eraill o drafnidiaeth serch hynny, mae cludiant llongau yn gymharol effeithlon, sy’n newyddion da gan fod y rhan fwyaf o gynnyrch masnach deg yn dod ar longau. Mae unrhyw beth sy’n dod drwy’r awyr serch hynny, yn ddwys iawn ar garbon. Mae hyn yn rhoi tipyn o bersbectif ar y ddadl o blaid bwyd lleol. Nid yw bwyd wedi ei gynhyrchu’n lleol o reidrwydd yn cael llai o effaith na bwyd wedi ei fewnforio, mae fel arfer yn dibynnu ar sut y cafodd ei dyfu a’i brosesu. Efallai eich bod wedi clywed am domatos a dyfir mewn tai gwydr wedi eu gwresogi yn y DU yn cael mwy o effaith na rhai a dyfir heb wres ychwanegol yn Sbaen er enghraifft, er bod rhaid iddynt deithio ymhellach i gyrraedd ein basgedi bwyd. Serch hynny, yn nhermau ffrwythau a llysiau, mae prynu’n lleol fel arfer yn gwneud mwy o synnwyr amgylcheddol - dim ond ei fod o fewn y cyfnod tyfu naturiol.
Yn y DU rydyn ni’n gwastraffu tua thraean y bwyd a brynwn. Mae hyn yn golygu fod tua thraean o’r holl ynni a ddefnyddir i dyfu, prosesu, cludo a storio’r bwyd yn cael ei wastraffu hefyd. Os yw bwyd yn gorffen ei daith mewn safle tirlenwi yn hytrach na bin compost, mae’n pydru heb ocsigen ac yn cynhyrchu methan.
< Blaenorol![]() Her y Fasged Siopa |
Nesaf >![]() Cymharu Cacennau |
---|