Byddwch angen:
- Gwestai lleol o’r sector bwyd cynaliadwy, gallant fod yn berchennog siop, cogydd, neu ffarmwr er enghraifft.
Modiwl 5:Bwyd

Cyfweliad Gwestai
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Bydd ymwelydd o’r diwydiant bwyd yn cael ei (g)wahodd i’r dosbarth i gael cyfweliad gan y disgyblion
Beth i'w wneud:
Bydd angen i chi drefnu gwestai ymlaen llaw sy’n ymwneud â’r diwydiant bwyd cynaliadwy. Gall fod yn dyfwr, cynhyrchwr, cogydd neu swydd broffesiynol arall. Yn ddelfrydol bydd y disgyblion yn ymweld â’r gwestai yn eu gweithle, ond os nad yw hyn yn bosib yna gall y gwestai ddod i’r ysgol. Fel gyda’r gwestai eraill, bydd y disgyblion yn paratoi cwestiynau i’r cyfweliad yn seiliedig ar yr hyn maent wedi ei ddysgu, gyda’r nod o ddod o hyd i safbwyntiau a syniadau newydd, a darganfod beth yw eu barn nhw ar yr hyn y mae’r gwestai yn ei ddweud. Mae’n debygol y bydd y gwestai yn cynnig safbwyntiau gwahanol ar y pwnc, a gall hyn arwain y drafodaeth i gyfeiriadau newydd, ee drwy siarad am dyfu llysiau.
Fel bob tro, ysgogwch y disgyblion i wrando yn astud, addasu eu cwestiynau neu ychwanegu rhai newydd yn seiliedig ar yr atebion a geir. Mae hefyd yn bwysig gadael i’r gwestai gyfweld â nhw.
< Blaenorol![]() Bwyd Cynaliadwy |
Nesaf >![]() Cynllun Rhanbarthol - Bwyd |
---|