Byddwch angen:
Pecyn gweithgaredd ‘Ble mae’r Effaith?’ gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen.- Eitemau i’w harchwilio megis wy siocled bach gyda thegan plastig tu mewn.
Modiwl 1: Y Llun Mawr

Ble mae’r Effaith?
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r gweithgaredd grŵp yma i’r dosbarth cyfan yn defnyddio cardiau i archwilio’r effaith ehangach, fyd-eang a gaiff nwyddau cyfarwydd.
Beth i'w wneud:
Ceir cyfarwyddiadau llawn ar sut i chwarae’r gêm hon y tu mewn i’r pecyn. Rhennir y dosbarth i grwpiau bychain a rhoddir set o gardiau sy’n darlunio amrywiol gamau’r broses gynhyrchu, megis tir tyfu cnydau, lorïau, llwyfannau olew a ffatrïoedd. Byddant yn defnyddio’r cardiau hyn i archwilio cynnyrch neu weithgaredd. Mae’r gêm yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod popeth yr ydym yn ei wneud, ddefnyddio neu brynu wedi ei wneud allan o rywbeth, gan rywun, gan ddefnyddio hyn a hyn o dir neu ynni. Bydd disgyblion yn dechrau deall rhyng-gysylltiadau systemau, a bod ganddynt gysylltiadau byd-eang trwy gyfrwng eitemau bob dydd. Gellir hefyd ddefnyddio’r cardiau i gymharu cynnyrch tebyg.
Mae’n bwysig peidio defnyddio’r gweithgaredd i wneud i ddisgyblion deimlo’n euog am faint eu hôl troed, neu’n gyfyngedig yn eu dewisiadau. Gorffennwch y gweithgaredd drwy ofyn i’r dosbarth sut y gallant wneud ôl troed y cynnyrch maent wedi ei archwilio yn llai.
< Blaenorol![]() Y Llun Mawr |
Nesaf >![]() Chwalu’r Coelion Cyffredin |
---|