Byddwch angen:
- Mynediad at y rhyngrwyd
Modiwl7: Meddwl yn Fyd-eang, Ymddwyn yn Lleol

Dyfodol Positif
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd, bydd parau neu unigolion yn defnyddio’r darluniau o broblemau byd-eang ac yna’n dod o hyd i fersiynau positif neu atebion i’r broblem cyn cyflwyno hyn i’r dosbarth.
Beth i'w wneud:
Mae’r sleidiau Olion Traed Byd-eang yn enghraifft o’n effaith negyddol ar y blaned.
Gosodwch her i’r disgyblion i ysgrifennu eu cyflwyniad eu hunain yn darlunio atebion positif i’r lluniau a ddangosir. Gan ddibynnu ar faint o amser yr ydych yn dymuno ei ganiatáu ar gyfer y gweithgaredd hwn, neu’n ddibynnol ar oedran y disgyblion, efallai y byddwch yn dymuno gofyn iddynt greu cyflwyniad llawn, neu weithio ar un thema (ee brethynnau) neu ar un sleid yn unig.
Er enghraifft, efallai y byddech yn rhoi llun wedi ei argraffu i bâr o ddisgyblion CA2, ee y ffatri deganau. Gofynnwch iddynt chwilio’r rhyngrwyd am enghraifft bositif o ffatri deganau. Byddant yn gallu adeiladu ar eu profiad yn y gwersi am ‘stwff’ i wybod fod yna enghreifftiau o deganau Masnach Deg. Efallai hefyd y byddant yn dymuno cynnwys enghreifftiau o gwmnïau teganau organig, cynaliadwy, neu’r teganau hynny sydd wedi eu gwneud o wastraff wedi ei daflu.
Gofynnwch iddynt ddarparu nodiadau bras i gyd-fynd â’r lluniau. Ar ddiwedd y sesiwn, cyfunwch holl waith y disgyblion i mewn i un cyflwyniad, i’w ddangos i’r holl ddosbarth. Gofynnwch i’r disgyblion sy’n gyfrifol am bob sleid i gyflwyno eu gwaith. I ddechrau, dylid parhau i guddio’r testun, a bydd y disgyblion eraill yn cael eu hannog i ddyfalu beth y mae’r lluniau yn cyfeirio atynt.
Yna bydd y disgyblion sy’n cyflwyno yn datgelu’r testun. Dylent fod yn barod i ateb cwestiynau gan eu cyd-ddisgyblion. Ar y diwedd, arweiniwch drafodaeth am beth sydd wedi ei ddarganfod, a hefyd ansawdd eu gwaith. Os oes angen gwneud newidiadau, caniatewch amser i’r disgyblion i wneud y rhain.
< Blaenorol![]() Olion Traed Byd-eang |
Nesaf >![]() Y Cynllun Rhanbarthol Cynaliadwy |
---|