Byddwch angen:
- Mapiau a matiau llawr gyda lluniau awyrol os oes gennych rai
- Amrywiaeth o gyfryngau i wneud cofnodion
Modiwl7: Meddwl yn Fyd-eang, Ymddwyn yn Lleol

Y Cynllun Rhanbarthol Cynaliadwy
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Bydd disgyblion yn casglu eu gwaith ar gynllunio rhanbarthol mewn gwersi blaenorol, i greu cynllun cynaliadwy cyflawn ar gyfer y rhanbarth.
Beth i'w wneud:
Hon yw sesiwn olaf y prosiect, ac felly’n gyfle i’r disgyblion fynd dros eu cynllunio. Bob wythnos, dylent fod wedi bod yn datblygu cynlluniau ar sail themâu, ar gyfer trafnidiaeth, adeiladau, ynni a ‘stwff’. Manteisiwch ar y cyfle hwn i orffen unrhyw waith sydd angen ei gwblhau, yna trafodwch gyda’r disgyblion sut y mae angen dod â’r cynlluniau hyn at ei gilydd.
Gan ddibynnu ar eich blaenoriaethau a’ch gofynion fel athro/athrawes, efallai y bydd gennych gynlluniau rhanbarthol ar ffurf ysgrifenedig yn unig, fel ffotograffau, mapiau syniadau, neu ar ffurf modelau go iawn. Mae hwn yn gyfle delfrydol i gyfuno’r gwaith. Gofynnwch i’r disgyblion pa ffordd fyddai orau i wneud hyn, ac ysgogwch nhw i feddwl am ryw fath o gyd-destun - ydyn nhw angen cyflwyniad a chrynodeb i gyd-fynd â’u gwaith? Sut fydd y bobl y maen nhw’n cyflwyno’r gwaith iddyn nhw yn gwneud synnwyr o’r cynlluniau? Byddai’n ddefnyddiol gwahodd rhai cynghorwyr, cynllunwyr tref, aelodau cynulliad a swyddogion perthnasol eraill gyda chyfrifoldeb i ddod i weld eu gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl,a fyddai’r disgyblion yn gallu ymweld â’u swyddfeydd cyngor i’w gyflwyno? Fedran nhw yrru cynllun i Lywodraeth Cynulliad Cymru? I San Steffan?
< Blaenorol![]() Dyfodol Positif |
Nesaf >![]() Gemau Ôl Troed |
---|