Byddwch angen:
- Ychydig o bapur A4 wedi ei ddefnyddio ar y ddwy ochr a llyfr nodiadau wedi ei ailgylchu
- Can dur (can tun) a rhywbeth wedi ei wneud o ddur wedi ei ailgylchu, megis clipiau papur
- Potel ddiod blastig a rhywbeth wedi ei wneud o boteli wedi eu hailgylchu, megis cot law
Modiwl 1: Y Llun Mawr

Chwalu’r Coelion Cyffredin
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae’r sleid hon yn esbonio pam nad yw ailgylchu a diffodd goleuadau yn mynd i achub y blaned!
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch y wybodaeth ar y sleidiau a’r gweithgaredd isod i arwain trafodaeth.
Llwytho’r sioe sleidiau PowerPoint i lawr: Chwalur Coelion Cyffredin (1.49 MB)
Crynhowch y gweithgareddau blaenorol, drwy drafod beth a ddarganfuwyd am ein holion traed mawr, a’r effaith maent yn eu cael. Gofynnwch am awgrymiadau o’r hyn y gellir ei wneud felly i leihau maint ein holion traed. Ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw atebion? Efallai y byddwch eisiau cofnodi’r rhain. Mae’n bosib y byddant yn cynnig amrediad o atebion, o droi goleuadau i ffwrdd, gyrru llai, troi tapiau i ffwrdd, i ychwanegu ynysiad mewn adeiladau. Esboniwch y bydd pob un o’r gweithgareddau hyn yn gwneud gwahaniaeth positif ond y bydd rhai ohonynt yn gwneud gwahaniaeth bach iawn ac eraill yn gwneud gwahaniaeth mawr. Esboniwch mai un o amcanion y prosiect yw darganfod pa weithgareddau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae’n debygol iawn mai un o’r atebion cyntaf y byddwch yn ei dderbyn fydd ‘ailgylchu’. Gofynnwch i dri unigolyn ddod i flaen y dosbarth. Penodwch un o’r disgyblion hyn yn ffatri ailgylchu papur. Bydd angen i’r disgybl yma feddwl am sut i ailgylchu’r papur i greu’r llyfr nodiadau glan sydd wedi ei ailgylchu. Bydd yr ail ddisgybl yn ffatri ailgylchu plastig a bydd angen iddo/iddi feddwl am sut i ailgylchu’r botel blastig i greu’r got law. Her y trydydd disgybl fydd ceisio darganfod ffordd o ailgylchu’r can i mewn i glipiau papur.
O flaen y dosbarth, rhowch her tri deg eiliad i’r disgyblion hyn i ddechrau ailgylchu’r papur, y botel blastig a’r can dur. Rhowch anogaeth i weddill y dosbarth i daflu awgrymiadau iddyn nhw. Bydd y disgyblion yn debygol o fynd i hwyl yr her a dechrau rhwygo’r papur a tharo’u traed ar y botel a’r can. Awgrym iechyd a diogelwch - gwnewch yn siŵr fod ganddynt sodlau digon cryf ar eu hesgidiau a dywedwch wrth y disgyblion am fod yn wyliadwrus o unrhyw ymylon miniog.
Pan ddaw yr amser i ben, gofynnwch i’r disgyblion a gweddill y dosbarth i wneud awgrymiadau synhwyrol am ba brosesau fyddai wir yn digwydd mewn ffatri ailgylchu papur, ffatri ailgylchu plastig a ffatri ailgylchu dur. Dylent fedru sefydlu fod llawer o ddŵr, cemegau a pheiriannau yn cael eu defnyddio i ailgylchu’r papur, a bod llawer o beiriannau a gwres yn cael eu defnyddio yn y ffatrïoedd plastig a dur i lanhau, carpio, toddi, mowldio, ayb.
Dylai’r disgyblion fedru dod i’r casgliad fod ailgylchu yn defnyddio llawer o ynni, ac mai dyna pam ei fod ar waelod y rhestr ‘lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu.’
Ar ôl edrych ar y sleidiau, esboniwch mai sesiwn gyntaf fel rhan o brosiect oedd hon lle bydd disgyblion yn darganfod mwy am weithgareddau cynaliadwy, archwilio’r ardal leol, a chynllunio dyfodol lleol cynaliadwy.
Gallwch ddefnyddio’r amser hwn i holi’r disgyblion sut y bydden nhw’n hoffi i’r prosiect ddatblygu. Beth fydden nhw’n hoffi darganfod mwy amdano? Ydyn nhw’n meddwl ei bod hi’n bwysig i rannu’r hyn maent yn ei ddysgu gyda phobl eraill? Os felly, pwy a sut?
< Blaenorol![]() Ble mae’r Effaith? |
Nesaf >![]() Adroddiad |
---|