Modiwl 1: Y Llun Mawr

Syniadau Ymestynnol
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Beth i'w wneud:
Newid hinsawdd
Os nad yw disgyblion eisoes yn gyfarwydd â’r wyddoniaeth a’r effeithiau o newid hinsawdd, byddai hwn yn gyfle da i’w haddysgu.
Bydd disgyblion ifanc yn mwynhau gwylio’r ffilm ‘Home sweet home’ gan Anita Sancha fel agoriad i drafodaethau am newid hinsawdd:
Home Sweet Home Animation from Anita Sancha on Vimeo.
Mae Cymorth Gweithredu (Action Aid) hefyd wedi paratoi pecyn dysgu o’r enw ‘Power Down’. Os ydych chi’n defnyddio hwn, ceisiwch gynnwys trafodaeth am ba weithgareddau a ddangoswyd yn y ffilm fydd yn gwneud gwahaniaeth bach a pha rai fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Addas i Gyfnod Allweddol 2.
Mae Cymorth Gweithredol hefyd wedi creu pecyn dysgu i gyd-fynd â’r ffilm ‘The Age of Stupid.’ Addas i Gyfnod Allweddol 3 ac uwch.
Radio
Paratowch am gyfweliad radio am Ôl Troed Eco. Gallwch un ai fod yn gyfwelydd neu’n arbenigwr Ôl Troed Eco.
Olew Brig
Mae Anita Sancha wedi gwneud animeiddiad byr, hyfryd ac addysgiadol o’r enw ‘Past Peak Oil’ i gyd-fynd â’r dysgu am olew brig. Addas i Gyfnod Allweddol 2 ac uwch:
Past Peak Oil Travelling Towards Transition Animation from Anita Sancha on Vimeo.
Olion Traed Eco
Mae Adroddiad Living Planet ar wefan WWF hefyd ar gael fel llyfryn. Gallwch ddefnyddio hwn fel cyfeirnod i ddisgyblion i ddarganfod sut mae ôl troed eco’r DU yn cymharu â gwledydd eraill. Cynorthwywch y disgyblion i ddeall fod yr ôl troed yn mesur faint rydyn ni’n ei ddefnyddio, nid yn ei gynhyrchu, a’i fod yn cael ei fesur yn ôl y pen, nid yn ôl y wlad. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall unrhyw gamsyniadau posibl oedd ganddynt wrth ddisgwyl i Tsieina gael ôl troed mwy nag sydd ganddynt, er enghraifft. Gallwch ddefnyddio’r adroddiad hwn fel sail i ddarganfod am wledydd eraill. Addas i Gyfnod Allweddol 3.
Olion Traed Dŵr
Gallwch ddarganfod faint o ddŵr sydd wedi ei ddefnyddio i wneud cynhyrchion bob dydd trwy ymweld â gwefan Ôl Troed Dŵr.
Carbon Trust
Mae Walkers yn un o nifer o gwmnïau sy’n gweithio gyda’r Carbon Trust i ymchwilio a lleihau eu holion traed carbon. Gallwch ddarganfod mwy trwy edrych ar wefan yr Ymddiriedolaeth Carbon, ac ar wefannau’r cwmnïau unigol.
Olion Traed
Gall rhai o’r gwefannau hyn fod o ddiddordeb hefyd:
- www.walescarbonfootprint.gov.uk
- www.climatechangewales.org.uk
- www.bestfootforward.com
- www.wwf.org.uk
- www.footprintwales.org
< Blaenorol![]() Adroddiad |
---|