Byddwch angen:
- Gobeithio y bydd y gwestai cudd yn gallu aros am y sesiwn hwn
- Mapiau a matiau gyda lluniau’r rhanbarth o’r awyr
- Amrywiaeth o gyfryngau recordio
Modiwl 3: Ynni

Cynllun Rhanbarthol - Ynni
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Bydd y disgyblion yn defnyddio’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu er mwyn creu cynllun ynni cynaliadwy rhanbarthol.
Beth i'w wneud:
Defnyddiwch fapiau a matiau gyda lluniau’r rhanbarth o’r awyr, os oes gennych chi rai, er mwyn dod o hyd i ffynonellau ynni presennol yn y rhanbarth megis gorsafoedd ynni, cronfeydd ynni dŵr, neu ffermydd gwynt. Gyda lwc, bydd eich gwestai cudd ar gael i helpu’r disgyblion. Ydy’r holl ynni a ddefnyddir yn yr ardal yn cael ei gynhyrchu yn yr ardal? Os na,, o ble mae’n dod? Trafodwch lle mae’r rhan fwyaf o ynni a ddefnyddir yn yr ardal yn cael ei gynhyrchu, a gan beth. Rhowch her i’r disgyblion i ddatblygu cynllun ynni cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth. Gofynnwch iddynt feddwl am hyn yn ofalus. Os ydyn nhw eisiau cynnwys fferm wynt, beth fydd angen iddynt eu hystyried? Bydd manylder a chywirdeb y cynllunio y byddwch yn mynd iddo yn dibynnu ar oedran y disgyblion a faint o amser sydd gennych. Ar gyfer yr holl ddisgyblion, y peth pwysicaf yw plannu’r diddordeb a’r synnwyr o berchnogaeth yn eu rhanbarth ac yn eu dyfodol, ac i ddechrau gweithredu’r hyn maent wedi ei ddysgu yn y dosbarth mewn sefyllfaoedd go iawn.
< Blaenorol![]() Gwestai Cudd |
Nesaf >![]() Adroddiad |
---|