Modiwl 1: Y Llun Mawr
Amcanion
Bydd disgyblion yn dysgu fod hyd yn oed ein gweithredoedd syml yn gallu cael effaith fyd-eang ar yr amgylchedd ac ar bobl eraill, a bod llawer o bethau yn gysylltiedig. Byddant yn darganfod fod rhai gweithredoedd positif yn cael mwy o effaith nag eraill. Byddant yn dysgu fod gwahanol fathau o ‘olion traed’ yn cael eu defnyddio i fesur allyriad nwyon tŷ gwydr, tir a dŵr. Y gobaith yw y byddant yn cael eu hysgogi i ddarganfod mwy am fyw yn gynaliadwy!
Bydd disgyblion yn dechrau deall:
- Achosion sylfaenol ac effeithiau newid hinsawdd.
- Nad yw newid hinsawdd yr un peth â’r twll yn yr haen oson – (achoswyd y twll yn yr haen oson gan nwyon CFC)
- Fod y rhan fwyaf o’n allyriadau nwy tŷ gwydr yn dod o wresogi, trafnidiaeth, bwyd a’r ‘stwff’ rydyn ni’n prynu
- Mewn cymhariaeth, swm cymharol fach o allyriadau a ryddheir wrth ddefnyddio offer trydanol
- Fod ailgylchu yn defnyddio llawer o ynni – dyna pam ei fod ar waelod y rhestr ‘lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu’
- Fod ôl troed eco yn mesur cyfanswm y tir rydyn ni angen i gynhyrchu ynni ac adnoddau ac i ddelio gyda’n gwastraff
- Fod ôl troed carbon yn mesur cyfanswm y carbon deuocsid (CO2) a allyrrir wrth weithgynhyrchu neu ddefnyddio cynnyrch
Trwy weithgaredd grŵp a thrafodaeth dosbarth, bydd disgyblion yn:
Byddwch angen
- Dechrau datblygu dulliau rhyng-gysylltiol o feddwl a sgiliau dilyniannol
- Dechrau sylweddoli y dylid cwestiynu a gwirio rhai pethau a gymerir yn ganiataol
- Gallu cyflawni dadansoddiad cylched bywyd syml, gan ddefnyddio cardiau
Byddem yn eich annog i gasglu adnoddau a deunyddiau ychwanegol i wneud y prosiect yn berthnasol i'ch ysgol. Disgrifir y rhain ymhob gweithgaredd ac fe'u rhestrir yma hefyd:
1. Gêm y Glôb
- 1 x Glôb Aer
2. Olion Traed
- Pacedi o greision Walkers gydag eicon ‘ôl troed carbon’ (nid oes eicon ar becynnau lluosog a phecynnau arlwyo)
- Dwy eitem debyg wedi eu gwneud o ddeunyddiau gwahanol (e.e. cadair blastig a chadair bren
3. Traed Mawr
- Map mawr o’r byd y gallwch gerdded arno – does dim rhaid i hwn fod yn gywir, byddai diagram sialc ar y maes chwarae yn iawn. Mae angen iddo fod yn ddigon mawr i saith o
- ddisgyblion allu sefyll ar y tir yn gyfforddus.
- Pâr mawr iawn o esgidiau cardfwrdd - gall gwneud yr esgidiau ymlaen llaw fod yn rhan o’r gweithgaredd
- Neu gallwch brynu’r gweithgaredd wedi ei wneud yn barod gan TTS
5. Ble mae’r Effaith?
Pecyn gweithgaredd ‘Ble mae’r Effaith?’ gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen.- Eitemau i’w harchwilio megis wy siocled bach gyda thegan plastig tu mewn.
6. Chwalu’r Coelion Cyffredin
- Ychydig o bapur A4 wedi ei ddefnyddio ar y ddwy ochr a llyfr nodiadau wedi ei ailgylchu
- Can dur (can tun) a rhywbeth wedi ei wneud o ddur wedi ei ailgylchu, megis clipiau papur
- Potel ddiod blastig a rhywbeth wedi ei wneud o boteli wedi eu hailgylchu, megis cot law
Gweithgareddau

Mae’r gweithgaredd agoriadol hwn yn gwella ymwybyddiaeth disgyblion o’u cysylltiadau byd-eang.
Gweld >>

Gweithgaredd hwyliog i’r dosbarth i gyd yw hwn sy’n dangos sut mae gan ganran fechan o’r boblogaeth fyd-eang olion traed eco mwy na’r mwyafrif.
Gweld >>

Mae’r sleid yma’n dangos rhai o’r prif faterion amgylcheddol byd-eang yn gryno.
Gweld >>

Mae’r gweithgaredd grŵp yma i’r dosbarth cyfan yn defnyddio cardiau i archwilio’r effaith ehangach, fyd-eang a gaiff nwyddau cyfarwydd.
Gweld >>

Mae’r sleid hon yn esbonio pam nad yw ailgylchu a diffodd goleuadau yn mynd i achub y blaned!
Gweld >>

Cyfle i ddisgyblion weithio mewn grwpiau neu fel unigolion i gofnodi gweithgareddau’r dydd.
Gweld >>