Bydd disgyblion yn darganfod pa weithgareddau bob dydd sy’n defnyddio’r mwyaf o ynni ac yn cael eu hysgogi i leihau eu hôl troed ynni. Byddant yn darganfod fod rhai gweithredoedd positif ar gyfer newid yn cael mwy o effaith nag eraill. Byddant yn darganfod gwahanol fathau o ynni adnewyddol ac arbrofi gyda modelau ynni adnewyddol ymarferol sy’n cynhyrchu trydan. Byddant yn datblygu sgiliau cyfweld ymhellach, a datblygu cynllun ynni rhanbarthol gan gymryd i ystyriaeth yr hyn y maent wedi ei ddysgu eisoes.
GwybodaethBydd disgyblion yn deall:
- Fod gan baneli solar sy’n cynhesu dŵr arwyneb du, ynysiad, a gwydr clir i gynyddu effeithlonrwydd gwres.
- Pa weithgareddau bob dydd sy’n defnyddio’r rhan fwyaf o ynni – gwresogi ac oeri, trafnidiaeth, bwyd ac ynni ymgorfforedig y ‘stwff’ a brynwn.
- Fod yr ‘ynni ymgorfforedig’ hwn yn cyfeirio at faint o ynni sydd wedi ei ddefnyddio i wneud cynnyrch o’r dechrau i’r diwedd.
- Pa weithgareddau bob dydd sydd ag ôl troed ynni cymharol fach – goleuo, teclynnau trydan.
- Y gallai Prydain gael ei gyrru yn gyfan gwbl gan ynni adnewyddol petaem yn lleihau ein defnydd o ynni o 50%.
- Dealltwriaeth sylfaenol o sut mae gwahanol dechnolegau ynni adnewyddol yn gweithio – ee gwynt, solar, llanw, tonnau, biomas.
- Sgiliau rhif i gyfrifo’r gymysgedd ynni sydd ei hangen
- Sgiliau ymarferol i greu modelau ynni adnewyddol
- Sgiliau cyfweld
- Sgiliau trafod
1. Caniau Ynni Solar
- 4 can yfed alwminiwm yn cynnwys:
• 3 wedi eu peintio gyda phaent du mat (neu baent bwrdd du) yn cynnwys:
• 2 wedi ei hynysu gyda deunyddiau sy’n ddiogel i’w trin - gwlân dafad er enghraifft yn gorchuddio'r hanner cefn neu dau draean o’r can. O’r rhain:
• 1 wedi ei osod mewn bag plastig clir neu gynhwysydd megis potel glir 2 litr â’r gwaelod wedi ei dorri i ffwrdd. - Thermomedr
- Taflen i gofnodi
3. Y Tŷ Gwydr
- Gweithgaredd i’w lawrlwytho gan CAT (coming soon)
4. Cymryd y Camau
- Rhestr
y gweithgareddau a hyd y ‘camau’ (49.35 kB)
- Rhestr
y gweithgareddau wedi eu torri’n stripiau (18.42 kB)
6. Pweru gydag... Ynni Solar!
- Yr holl ddosbarth mewn grwpiau
- Celloedd ffotofoltaidd bychan, moduron, clipiau crocodeil a llafnau gyrru (propellers) (ar gael yn siop Canolfan y Dechnoleg Amgen a gan ddarparwyr addysg eraill)
- Deunyddiau glân sy’n arnofio - ee poteli plastig (gyda chaeadau), cartonau a chwpanau a chynwysyddion, bandiau rwber
7. Pweru gydag... Ynni Gwynt!
‘Wind Kit’ gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen (neu becyn ynni gwynt gan gyflenwr addysg arall)- Darnau o blastig ‘coriffliwt’ a/neu ddeunyddiau sgrap addas eraill megis cerdyn tenau a phlastig, siswrn, tâp.
- Gwyntyll fawr drydan gyda llafnau llydan, y rhai sy’n dod gyda chewyll o’u hamgylch ac sy’n eistedd ar y llawr yw’r gorau. (nid yw gwyntyllau ystafelloedd ymolchi tal gyda llafnau tenau yn gweithio cystal.)
8. Gwestai Cudd
- Gwestai cudd o’r diwydiant ynni cynaliadwy. Dylai’r person yma fod yn rhywun sy’n gweithio i osod systemau ynni adnewyddol, neu beiriannydd sy’n eu cynllunio. Gallai fod yn rhywun o’r cyngor gyda chyfrifoldeb am effeithlonrwydd ynni, neu rywun sy’n hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Neu gallai fod yn rhywun o grŵp lleol megis Cyfeillion y Ddaear.
9. Cynllun Rhanbarthol - Ynni
- Gobeithio y bydd y gwestai cudd yn gallu aros am y sesiwn hwn
- Mapiau a matiau gyda lluniau’r rhanbarth o’r awyr
- Amrywiaeth o gyfryngau recordio







