Mae’r gweithgaredd grŵp hwn yn caniatáu i ddisgyblion gynllunio a gwneud eu tyrbinau gwynt eu hunain sy’n cynhyrchu trydan.
Bydd y disgyblion eisoes wedi gweld gwahanol fathau o gynlluniau melinau gwynt ar y sleidiau. Efallai y byddwch eisiau ymestyn y wybodaeth hon trwy ddangos mathau eraill o gynlluniau. (Gweler syniadau ymestynnol)
Gosodwch y rig gwynt ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau, a chysylltwch dyrbin a wnaethoch i foltmedr. Defnyddiwch wyntyll drydan fawr i gynrychioli’r gwynt. Gyda chymorth y disgyblion, cofnodwch faint o drydan yr ydych wedi ei gynhyrchu. Mewn grwpiau rhowch dasg i’r disgyblion i gynllunio ac adeiladu eu generaduron eu hunain o blastig ‘coriffliwt (sy’n dod gyda’r pecyn ac y gellir ei archebu gan gyflenwyr addysg), neu unrhyw ddeunyddiau sgrap eraill. Atgoffwch nhw y gallant arbrofi gyda’r nifer, gyda’r siapiau a maint y llafnau. Bydd pob grŵp yn cael both (hub), ac ychydig o begiau pren i gysylltu’r llafnau at y both. Pan maent yn barod, gallant ddod â’u bothau at y rig prawf. Os nad yw’r tyrbin yn troi, ysgogwch nhw i geisio gweld pam. Efallai nad ydynt wedi gosod eu llafnau ar ongl er enghraifft, sy’n achosi i’r gwynt wthio yn erbyn y tyrbin yn hytrach na’i droi, neu mae’n bosib fod y llafnau yn rhy fach a thenau i ddal y gwynt. Gyda chefnogaeth, ysgogwch nhw i arbrofi ychydig gan wella a datblygu eu cynlluniau.
(Mae’r Pecyn Gwynt yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar gyfer cynhyrchu ynni trydan a mecanyddol.)
< Blaenorol![]() Pweru gydag... Ynni Solar! |
Nesaf >![]() Gwestai Cudd |
---|