Gwahoddir ymwelydd o’r diwydiant ynni i’r dosbarth i gael cyfweliad gan y disgyblion.
Gan ddilyn yr un fformat â’r un yn ystod wythnos trafnidiaeth, gwahoddwch arbenigwr ynni adnewyddol ymlaen llaw i ddod i mewn i’r dosbarth i gael ei g/chyfweld gan y disgyblion. Bydd technegau cyfweld y disgyblion eisoes yn gwella, ond byddant angen ychydig o amser mewn grwpiau i greu cwestiynau addas i ofyn i’r gwestai. Penderfynwch os, a sut ydych chi am recordio’r cyfweliad, a phwy fydd yn gwneud hyn. Mae gwahodd gwesteion i’r dosbarth, nid yn unig yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, ond mae hefyd yn caniatáu iddynt ychwanegu persbectif arall i’w dysgu, ac i lefydd gwaith yn y rhanbarth lle maent yn byw.
< Blaenorol![]() Pweru gydag... Ynni Gwynt! |
Nesaf >![]() Cynllun Rhanbarthol - Ynni |
---|