Ôl Troed i’r Dyfodol
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Mae hwn yn brosiect cyffrous i’w weithredu yn eich ysgol. Bydd disgyblion yn cael sylfaen gadarn o wybodaeth sylfaenol am faterion cynaladwyedd a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o effaith ehangach penderfyniadau a gweithredoedd bob dydd, ac yn darganfod sut y mae gweithredoedd lleol yn gysylltiedig ag effeithiau byd-eang.
Bydd disgyblion yn darganfod am newid hinsawdd, bioamrywiaeth, olew brig a thlodi byd-eang, a sut y mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig. Elfen bwysig arall yw y byddant yn dod o hyd i rai opsiynau sy’n cynnig atebion lleol i faterion byd-eang, ac yn defnyddio’r wybodaeth yma i ddatblygu cynlluniau rhanbarthol cynaliadwy.
Wrth gymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau a thrafodaethau yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth, byddant yn datblygu amrediad o sgiliau cyfathrebu a meddwl a rhai sgiliau pynciau craidd megis defnyddio mapiau a systemau ynni adnewyddol.
Byddant yn datblygu synnwyr o le a diddordeb yn eu cymuned, gyda phosibilrwydd o gynnwys cymuned ehangach yr ysgol trwy wasanaethau a noson agored, yn cael eu cyflwyno gan y disgyblion i rieni a staff eraill yr ysgol ac aelodau o’r gymuned.
Yn y pen draw, bydd y disgyblion yn cael eu hysgogi i fyw yn fwy cynaliadwy fel unigolion ac yn gallu gwneud penderfyniadau deallus am ba atebion sy’n cael yr effaith fwyaf. Byddant hefyd wedi datblygu gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy i’w rhanbarth.