Byddwch angen:
- Gwestai cudd o’r diwydiant ynni cynaliadwy. Dylai’r person yma fod yn rhywun sy’n gweithio i osod systemau ynni adnewyddol, neu beiriannydd sy’n eu cynllunio. Gallai fod yn rhywun o’r cyngor gyda chyfrifoldeb am effeithlonrwydd ynni, neu rywun sy’n hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Neu gallai fod yn rhywun o grŵp lleol megis Cyfeillion y Ddaear.
Modiwl 3: Ynni

Gwestai Cudd
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Gwahoddir ymwelydd o’r diwydiant ynni i’r dosbarth i gael cyfweliad gan y disgyblion.
Beth i'w wneud:
Gan ddilyn yr un fformat â’r un yn ystod wythnos trafnidiaeth, gwahoddwch arbenigwr ynni adnewyddol ymlaen llaw i ddod i mewn i’r dosbarth i gael ei g/chyfweld gan y disgyblion. Bydd technegau cyfweld y disgyblion eisoes yn gwella, ond byddant angen ychydig o amser mewn grwpiau i greu cwestiynau addas i ofyn i’r gwestai. Penderfynwch os, a sut ydych chi am recordio’r cyfweliad, a phwy fydd yn gwneud hyn. Mae gwahodd gwesteion i’r dosbarth, nid yn unig yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, ond mae hefyd yn caniatáu iddynt ychwanegu persbectif arall i’w dysgu, ac i lefydd gwaith yn y rhanbarth lle maent yn byw.
< Blaenorol![]() Pweru gydag... Ynni Gwynt! |
Nesaf >![]() Cynllun Rhanbarthol - Ynni |
---|