Modiwl 3: Ynni

Syniadau Ymestynnol
Llwytho i lawr | | Argraffu | |
Beth i'w wneud:
Trafodaeth
Gosodwch senario o gais cynllunio ar gyfer system ynni adnewyddol newydd, ee Morglawdd Hafren, neu fferm wynt newydd ar y tir. Rhannwch y disgyblion i grwpiau a dweud wrthynt eu bod yn cynrychioli gwahanol gyfranddalwyr. Efallai y byddant yn cynrychioli tirfeddianwyr a fydd yn elwa’n ariannol o’r cynnig, grwpiau amgylcheddol, trigolion lleol ayb. Gofynnwch iddynt ymchwilio i fanteision ac anfanteision y cynnig. Yna gallwch gynnal ffug drafodaeth lle mae’r holl grwpiau yn trafod eu safbwyntiau. A fedrant ddod o hyd i gonsensws?
Hanes Ynni Rhanbarthol
Edrychwch ar hen fapiau o’r ardal neu gofynnwch yn eich amgueddfa leol sut yr arferai ynni gael ei gynhyrchu. Os nad oes unrhyw beth i’w weld, beth oedd yn cael ei ddefnyddio? Ydy’r ynni wedi ei fewnforio o rhywle arall? Sut oedd pobl yn cynhesu a goleuo eu cartrefi mewn amrywiol gyfnodau amser? Beth sydd wedi newid a beth sydd wedi aros yr un peth? Fedrwch chi esbonio’r gwahaniaethau?
Cynllunio Ynni’r DU
Efallai y bydd gan ddisgyblion hŷn a chyd athrawon ddiddoreb mewn edrych ar 'Brydain ddi-garbon 2030', ddogfen ynni adnewyddol gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen sy’n cyflwyno glaslun ar gyfer cynhyrchiant ynni ym Mhrydain. Mae’n dangos sut y gall Prydain ddiddymu tanwydd ffosil yn llwyr a’i ddisodli gydag ynni adnewyddol drwy broses o leihau ynni, gwella effeithlonrwydd a phweru cynhyrchiant ynni adnewyddol. Ar gael i’w brynu fel dogfen bapur neu i’w lawrlwytho am ddim.
Delio â data
Beth am ddefnyddio’r data a gasglwyd yn yr arbrawf gwresogi dŵr â solar i ddysgu sut i gynrychioli data mewn amrywiaeth o graffiau.
Hanes gwynt
Paratowch, neu gofynnwch i’r disgyblion ddod o hyd i luniau a chyfeiriadau at wahanol fathau o beiriannau gwynt ar hyd yr oesau. Byddwch yn darganfod am felinau gwynt a ddefnyddiwyd i falu ŷd yn flawd, neu i bwmpio dŵr o’r tir. Gwnaethpwyd rhai hwyliau o ddefnydd, gwnaed llawer allan o goed, ac roedd ganddynt wahanol ffyrdd o addasu i amrywiol gyfeiriadau a chryfderau’r gwynt. Mae rhai peiriannau gwynt yn dal i gael eu defnyddio i bwmpio dŵr. Mae gan y cynlluniau hyn lawer o lafnau fel arfer, sy’n eu galluogi i droi yn araf er mwyn cael cryfder mecanyddol. Ceir llai o lafnau ar dyrbinau a ddefnyddir i gynhyrchu trydan er mwyn cael y cyflymder. Pryd ddyfeisiwyd y felin wynt gyntaf i gynhyrchu trydan? Pam, na ddatblygwyd hyn ymhellach bryd hynny?
Glo
Mae glo wedi chwarae rôl bwysig yn hanes Cymru, a cheir digonedd o adnoddau i ddarganfod mwy. Sut wnaeth glo lunio cymunedau yng Nghymru? Pwy oedd yn gweithio yn y pyllau glo ac o dan ba amgylchiadau? Pam gaewyd y pyllau? Beth yw’r sefyllfa nawr - ydyn nhw’n cael eu hail agor? Beth mae amrywiol bobl yn feddwl o hyn?
Deg Prif Awgrym
Cyn y sesiwn hon, gofynnwch i’r disgyblion gasglu enghreifftiau o ‘awgrymiadau ar sut i fod yn wyrdd’ oddi ar wefannau neu mewn cylchgronau. Cyn y gweithgareddau, profwch y disgyblion i weld os ydyn nhw’n gallu adnabod y rhai sy’n gwneud gwahaniaeth mawr a pha rai sy’n gwneud gwahaniaeth bychan. Gallwch ddefnyddio hwn fel cyfle i feddwl am dderbyn gwybodaeth a roddir inni ar yr olwg gyntaf. Pa gwestiynau sydd angen eu gofyn? Gofynnwch i’r disgyblion greu Deg Prif Awgrym eu hunain ar gyfer gweithgaredd newid hinsawdd yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi ei ddysgu yn y wers hon.
Adnoddau eraill
< Blaenorol![]() Adroddiad |
---|