Bydd disgyblion yn dysgu am yr amrywiol effeithiau rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth. Byddant yn darganfod nad yw ein defnydd presennol o drafnidiaeth yn gynaladwy, ac yn cael eu hysgogi i ddod o hyd i ddulliau trafnidiaeth sydd ddim yn niweidio’r blaned. Byddant yn dysgu rhywbeth am hanes trafnidiaeth yn eu hardal nhw, a rhai o’r ffactorau sydd wedi arwain at newidiadau. Byddant yn gallu defnyddio amserlenni i gynllunio teithiau, ac yn dechrau datblygu sgiliau cyfweld. Byddant yn gweithio gyda’i gilydd i wneud cynllun trafnidiaeth ranbarthol gynaladwy.
Gwybodaeth- Mae trafnidiaeth yn gyfrifol am tua 40% o’n hallyriadau CO2 yn y DU.
- Mae’r rhan fwyaf o hyn yn ganlyniad i hedfan a gyrru.
- Bydd y carbon deuocsid a ryddheir yn uchel yn yr atmosffer gan awyrennau yn gwneud mwy o niwed nac ar lefel y ddaear.
- Mae trenau yn rhyddhau llai o allyriadau, fesul teithiwr, na cheir ac awyrennau, ac mae bysiau yn rhyddhau llai fyth.
- Adeiladwyd rheilffyrdd yn yr oes Fictoraidd. Arferent gael eu gyrru gan lo ac roedd ganddyn nhw ôl troed carbon fwy nag sydd ganddyn nhw nawr. Fe’u defnyddiwyd i gludo pobl ar eu gwyliau i’r arfordir, a nwyddau ar hyd a lled y wlad.
- Mae llawer o reilffyrdd wedi diflannu. Mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn traffig ffordd, a gan nad oedd angen rhai rheilffyrdd ar gyfer pethau penodol fel chwareli ar ôl i’r chwareli gau.
- Gyrrir trenau modern gan ddisel (llygrwr mwyaf) neu drydan.
- Mae’n debygol mai cerbydau trydan yw’r dull trafnidiaeth mwyaf cynaliadwy i’r DU i’r dyfodol. Bydd rhwydwaith o fysiau yn cludo pobl ar deithiau pell a bydd y rhan fwyaf o geir yn drydan.
- Ceir cyfyngiadau ymarferol i faint o ynni adnewyddol y gallwn ei ddefnyddio dros yr ychydig ddegawdau nesaf, sy’n golygu bod angen i ni deithio llai a blaenoriaethu’r siwrneiau pwysicaf.
- Mae hyd yn oed cerbydau trydan yn defnyddio ynni a deunyddiau er mwyn eu gwneud – bydd angen i ni deithio llai
- Mae cerdded a beicio yn dda i’r amgylchedd ac yn well i’ch iechyd
- Sgiliau archwilio - cyfansymu, delio â, a dehongli data
- Defnyddio amserlenni
- Dehongli mapiau
- Dilyniannu digwyddiadau - sut a pham fod hanes trafnidiaeth leol wedi datblygu
- Dechrau datblygu sgiliau cyfweld, gwrando a recordio
- Dechrau datblygu sgiliau cynllunio rhanbarthol
1. Arolwg Trafnidiaeth
- Clipfyrddau, pensiliau a phapur
3. Symud o Le i Le
- Mapiau o’ch ardal leol (neu fatiau llawr gyda lluniau’r ardal o’r awyr)
- Amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus leol
4. Teithio Amser
- Mapiau hanesyddol o’r rhanbarth
6. Gwestai Cudd
- Ymweliad gan aelod o’r gymuned leol sy’n ymwneud â materion trafnidiaeth – gall y person yma fod yn gynrychiolydd o’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr orsaf fysiau, neu rywun sy’n rhedeg siop feiciau er enghraifft.
7. Cynllunio Rhanbarthol - Trafnidiaeth
- Gofyn i’ch gwestai trafnidiaeth os fedran nhw aros am yr un hwn!
- Mapiau’r ardal leol neu’r matiau llawr gyda lluniau’r ardal o’r awyr




